BETH YW RHEOLWR ANSAWDD?

Rydym yn defnyddio ein hangerdd a’n brwdfrydedd dros addysgu a dysgu i ysgogi gwelliant ansawdd ar draws pob maes y cwricwlwm. Rydym yn sicrhau bod gweithdrefnau sicrhau ansawdd trylwyr yn cael eu gweithredu a’u monitro. Rydym yn darparu arweinyddiaeth a gweledigaeth strategol ynghylch pob agwedd ar y cwricwlwm ac ansawdd, ac rydym yn sicrhau cydymffurfedd â sefydliadau dyfarnu a gwelliant ansawdd.

Rydym yn rheoli’r cylch ansawdd yn unol â blaenoriaethau sefydliadol, gofynion Llywodraeth Cymru, a meysydd arolygu Estyn. Rydym yn sicrhau bod gwella ansawdd yn gyfannol ar draws pob agwedd ar daith y dysgwr a gweithgarwch uwch reolwyr, er mwyn ysgogi perfformiad staff a chyfoethogi taith y dysgwr. Rydym yn cefnogi gwelliant ansawdd wrth fonitro a datblygu Cynlluniau Datblygu Ansawdd adrannol, a thrwy adroddiadau hunanarfarnu’r sefydliad.

Mae ein ffocws cryf ar sicrhau a gwella ansawdd yn sefydlu profiad rhagorol i’n dysgwyr ac yn eu cefnogi i gyflawni eu potensial llawn. Rydym yn ymdrechu i sicrhau gwelliant parhaus, ac yn gweithio i gryfhau a datblygu safonau academaidd. Rydym yn ysgogi datblygiad proffesiynol parhaus ac yn cefnogi twf unigolion er mwyn sicrhau perfformiad uchel parhaus.

Rydym yn cadw mewn cysylltiad agos â chyrff dyfarnu, ac yn cydlynu’r gwaith o fonitro sicrwydd ansawdd. Rydym yn lledaenu gwybodaeth berthnasol i gydweithwyr er mwyn sicrhau cydymffurfedd barhaus â systemau a gweithdrefnau’r cyrff dyfarnu.

Rydym yn arwain ar sicrhau bod ‘llais y dysgwr’ yn rhan annatod o bopeth a wnawn, a bod dysgwyr yn cymryd rhan mewn llunio addysgu a dysgu. Rydym yn angerddol dros sicrhau bod pob dysgwr yn cael profiad o’r radd flaenaf, ac mae gweld effaith ein gwaith ar ddysgwyr a chanlyniadau yn rhan werthfawr dros ben o’r swydd.

LLWYBRAU I MEWN I’R RÔL

Gall y rhain gynnwys:

  • Pennaeth Cyfadran / Rheoli ansawdd ar lefel cyfadran/llwybr
  • Cynghorydd Arweiniol Ansawdd Mewnol
  • Cyfarwyddwr addysg bellach
  • Rôl rheoli llinell
  • Symud rhwng addysg bellach a dysgu seiliedig ar waith

Y CYMWYSTERAU Y BYDD EU HANGEN ARNOCH

Bydd Rheolwr Ansawdd angen cymhwyster academaidd priodol, megis gradd neu gymwysterau Lefel 5 cyfatebol a/neu brofiad helaeth mewn AB / DSW a / neu AU. Yn ogystal, gall rhai rheolwyr ennill cymhwyster sicrhau ansawdd mewnol (er enghraifft Lefel 4 Hyfforddiant, Asesu a Sicrhau Ansawdd) a/neu gymhwyster arweinyddiaeth a rheolaeth.

 

Chwiliwch yma am ddarparwyr cymwysterau

SGILIAU A PHRIODOLEDDAU ALLWEDDOL AR GYFER Y RÔL

 

  • sgiliau cyfathrebu cryf
  • sgiliau rheoli pobl / rheolaeth llinell
  • sgiliau trefnu a chynllunio effeithiol
  • sgiliau ysgrifennu adroddiadau
  • y gallu i gydweithio â chydweithwyr
  • y gallu i weithio’n effeithiol dan bwysau
  • sylw i fanylion

 

 

 

  • y gallu i ddadansoddi data yn feirniadol
  • hyder a gallu wrth ddefnyddio TGCh
  • sgiliau Cymraeg – bydd y lefelau gofynnol yn amrywio, yn dibynnu ar y swydd, ond disgwylir ymrwymiad i’r Gymraeg ym mhob rôl (hyd yn oed os ydych ond yn datblygu eich sgiliau fel dechreuwr)
  • ymrwymiad i ddiogelu dysgwyr a phobl ifanc
  • ymrwymiad i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.

 

 

Chwiliwch yma am swyddi

CYFLEOEDD AR GYFER DATBLYGIAD

Gall y rhain gynnwys:

  • Pennaeth Ansawdd neu Welliant Parhaus
  • Aelod o’r tîm gweithredol
  • Is-bennaeth
  • Pennaeth

Gellir ennill llawer o sgiliau trosglwyddadwy yn y rôl hon sy’n briodol ar gyfer rolau addysgol eraill, e.e. cyrff dyfarnu, Llywodraeth Cymru, Estyn