BETH YW PENNAETH A PHRIF WEITHREDWR ADDYSG BELLACH?

Rydym yn gyfrifol am ddarparu arweinyddiaeth strategol gyffredinol o fewn ein sefydliad, gan sicrhau bod y coleg yn cyflawni ei nodau ac amcanion strategol, fel y’u pennir gan ein Bwrdd.

Rydym yn llunio ac yn gweithredu cynlluniau strategol blaengar ar gyfer datblygu a gwella ac mae gennym gyfrifoldeb cyffredinol am ddatblygiad a thwf parhaus y ddarpariaeth yn ein coleg. Rydym hefyd yn sicrhau bod ein strategaethau tymor byr a hirdymor yn cael eu cyfleu i gynulleidfaoedd mewnol ac allanol.

Rydym yn darparu arweinyddiaeth a chyfeiriad ysbrydoledig a dilys ledled ein coleg i sicrhau y cyflawnir ein gweledigaeth, ein cenhadaeth a’n pwrpas, er mwyn arwain ein sefydliad at ddyfodol cryf a chynaliadwy.

Mae ein rôl yn ymwneud â lefel uchel o gyfrifoldeb, a gwnawn benderfyniadau hollbwysig sy’n effeithio ar ddyfodol ein sefydliad a’n gweithwyr. Mae dynodi ein rôl fel ‘Prif Weithredwr a Phennaeth’ yn arwydd o bwysigrwydd datblygu a hyrwyddo ansawdd ac ehangder yr addysg a ddarperir yn ein coleg, ochr yn ochr ag arweinyddiaeth busnes.

Rydym yn sefydlu diwylliant o uchelgais a chyflawniad ar gyfer pob dysgwr a’r holl staff. Rydym yn dangos ymrwymiad i dwf a datblygiad personol staff a dysgwyr ar bob lefel

Rydym yn sefydlu llinellau cyfrifoldeb a goruchwyliaeth clir ar gyfer pob maes o fewn ein coleg. Rydym yn gweithredu fel rheolwyr llinell, gan arfarnu a datblygu uwch arweinwyr a’u cyfrifoldebau portffolio yn effeithiol.

Rydym yn chwarae rhan effeithiol yng ngwaith ein Corff Llywodraethu, fel aelod o’r Bwrdd ac fel cynghorydd allweddol i’r Llywodraethwyr.

Rydym yn sicrhau bod y Corff Llywodraethu a’i bwyllgorau yn cael eu hysbysu’n llawn am agweddau allweddol ar berfformiad, datblygiadau mawr, a phrosiectau allweddol, ac yn gofalu bod arferion y coleg yn bodloni safonau llywodraethu da.

Rydym yn sicrhau bod yr holl gyllidebau ac adnoddau’n cael eu rheoli’n effeithiol ac yn briodol a bod system rheoli risg effeithiol ar waith. Mae hyn yn golygu bod unrhyw risgiau’n cael eu gwerthuso, eu hasesu a’u rheoli mewn ffordd sy’n sicrhau sefydlogrwydd ac enw da’r coleg.

Rydym yn sicrhau bod ystad y coleg yn cael ei chynllunio, ei datblygu a’i gweithredu’n effeithiol i sicrhau’r budd mwyaf i’r coleg o fewn cyd-destun ein nodau strategol.

Rydym yn arwain ac yn hyrwyddo diwylliant o weithio mewn partneriaeth i godi dyheadau a gwireddu uchelgeisiau.

Rydym yn gweithredu fel llysgennad ar ran y coleg, i helpu i gynnal delwedd gadarnhaol y sefydliad o fewn ein cymuned ac yn ehangach ar draws y sector addysg. Rydym yn adeiladu ac yn cynnal cysylltiadau effeithiol a chyd-gefnogol â rhanddeiliaid allweddol ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol, er mwyn meithrin a chryfhau’r perthnasoedd a’r rhwydweithiau hyn.

Rydym yn edrych am ffyrdd o ehangu cyfleoedd ar gyfer addysg o fewn ein cymuned, gan ysgogi llwyddiant masnachol ac addysgol ein coleg.

LLWYBRAU I MEWN I’R RÔL

Gall y rhain gynnwys:

  • Addysgu o fewn y sector AB cyn symud i rolau rheoli, gan efallai symud ymlaen trwy lefelau a meysydd cyfrifoldeb gwahanol
  • Rôl Cyfarwyddwr / Is-bennaeth
  • Pennaeth mewn coleg llai o faint
  • Rôl arweiniol yn y sector preifat

Y CYMWYSTERAU Y BYDD EU HANGEN ARNOCH

Disgwylir i brif weithredwr a phennaeth feddu ar gymhwyster lefel gradd (neu feddu ar gymhwyster proffesiynol cyfatebol), yn ogystal â chymhwyster addysgu a chymhwyster rheoli neu gymhwyster broffesiynol perthnasol.

Hefyd, bydd angen i bennaeth ddangos dealltwriaeth a phrofiad helaeth o’r sector, a phrofiad amlwg o sicrhau llwyddiant academaidd a sefydliadol.

 

Chwiliwch yma am ddarparwyr cymwysterau

SGILIAU A PHRIODOLEDDAU ALLWEDDOL AR GYFER Y RÔL

 

  • sgiliau cyfathrebu effeithiol dros ben
  • y gallu i annog, ysgogi ac ysbrydoli pobl eraill
  • sgiliau rhagorol o ran dadansoddi, datrys problemau, cyd-drafod a gwneud penderfyniadau
  • arweinydd a rheolwr strategol effeithiol
  • trefnydd a chynlluniwr effeithiol
  • y gallu i weithio’n effeithiol dan bwysau
  • sgiliau rhyngbersonol a rhwydweithio rhagorol
  • ymrwymiad cadarn i welliant a rhagoriaeth

 

 

 

  • craffter busnes cryf a’r gallu i rwydweithio o fewn cylchoedd addysg, busnes a llunio polisi
  • profiad o reolaeth ariannol ar lefel uchel
  • hyder a gallu wrth ddefnyddio TGCh
  • sgiliau Cymraeg – bydd y lefelau gofynnol yn amrywio, yn dibynnu ar y swydd, ond disgwylir ymrwymiad i’r Gymraeg ym mhob rôl (hyd yn oed os ydych ond yn datblygu eich sgiliau fel dechreuwr)
  • ymrwymiad i ddiogelu dysgwyr a phobl ifanc
  • ymrwymiad i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.

 

 

Chwiliwch yma am swyddi

CYFLEOEDD AR GYFER DATBLYGIAD

Gall y rhain gynnwys:

  • Pennaeth neu Brif Weithredwr mewn sefydliad AB neu sefydliad addysg uwch (AU) mwy o faint.
  • Rôl arweiniol mewn sector arall
  • Gwaith ymgynghori ym maes busnes
  • Rôl ymgynghorol â Llywodraeth Cymru