BETH YW CYNORTHWYYDD CYMORTH DYSGU?
Rydym yn amyneddgar, ac wrth law bob amser i wrando. Rydym yn mabwysiadu dull sy’n canolbwyntio ar unigolion, oherwydd mae’n bwysig i ni ein bod yn meithrin perthnasoedd cadarnhaol â’n dysgwyr fel y gallwn ddeall eu hanghenion penodol. P’un a yw’n golygu addasu adnoddau dysgu, neu dreulio amser yn esbonio tasgau a syniadau mewn ffyrdd sy’n cynorthwyo dulliau dysgu unigol a ffefrir, rydym yno i helpu dysgwyr, pryd bynnag maen nhw ein hangen ni.
Rydym yn cefnogi darparwyr a dysgwyr wrth annog cyfranogiad llawn mewn dysgu, gan hyrwyddo annibyniaeth a helpu dysgwyr i ddeall a chyflawni’r hyn y gallant ei wneud. Mae’n bosibl y byddwn hefyd yn cefnogi rhaglenni gofal personol dysgwyr, gan gynnwys darparu cymorth cymdeithasol, meddygol a symudedd.
Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â chydweithwyr perthnasol i ddarparu cymorth ar sail anghenion unigol pob dysgwr, gan weithio â nhw i ddatgloi a chyflawni eu hamcanion gyrfaol.
Gall ein rolau fod yn gymhleth, ac mae gan lawer ohonom feysydd arbenigedd penodol. Mae hyn yn ein galluogi i roi cefnogaeth effeithiol i ddysgwyr ag ystod o anghenion dysgu ychwanegol. Mae’n bosibl y byddwn yn arbenigo mewn cefnogi anghenion dysgu ychwanegol penodol a defnyddio technoleg ddigidol i gefnogi dysgwyr. Weithiau, mae ein cymorth yn canolbwyntio ar les y dysgwyr.
Ar adegau, rhaid cymryd gofal i gadw cydbwysedd. Mae’n rhaid i ni roi adborth adeiladol yn ogystal â chanmoliaeth, oherwydd rydym eisiau ymgysylltu â dysgwyr ar bob lefel, a’u hannog a’u hysbrydoli i oresgyn rhwystrau a chyflawni eu gwir botensial.
* Gall y rôl hon gael ei hadnabod hefyd fel cynorthwyydd cymorth ychwanegol.
Y CYMWYSTERAU BYDD EU HANGEN ARNOCH
Fel arfer, bydd angen cymhwyster Lefel 3 o leiaf ar gynorthwywyr dysgu, neu brofiadau galwedigaethol cyfatebol, a bydd angen cymhwyster proffesiynol ar rai. Bydd llawer o golegau AB yn chwilio hefyd am dystiolaeth o sgiliau a gwybodaeth a ddatblygwyd trwy brofiad perthnasol.
Mae’n bosibl y bydd angen cymwysterau penodol ar gyfer rhai rolau, er enghraifft, hyfforddiant mewn diogelu, neu mewn agweddau ar Anghenion Addysgol Arbennig (AAA), h.y. Cynorthwyydd Cymorth Llythrennedd Emosiynol, neu ymwybyddiaeth o ddyslecsia.
CYFLEOEDD AR GYFER DATBLYGIAD
Gall y rhain gynnwys:
- Ymgymryd â thystysgrif addysg i raddedigion (TAR) mewn addysg a hyfforddiant ôl-orfodol (AHO) a dod yn ddarlithydd AB
- Rôl cynorthwyydd addysgu lefel uwch (CALU) mewn ysgol
- Tiwtor dysgu seiliedig ar waith (DSW)
- Technegydd
- Hyfforddwr