BETH YW TIWTOR DYSGU SEILIEDIG AR WAITH (DSW)?

Rydym yn darparu cymorth, cyfleoedd asesu a phrofiadau dysgu gwerthfawr i gyfranogwyr dysgu seiliedig ar waith, gan eu helpu i gyflawni eu potensial a gwneud cyfraniad gwerthfawr yn eu gweithle.

Rydym yn defnyddio gwybodaeth fanwl am ein maes galwedigaethol i gyfuno theori â dysgu ymarferol a chyfunol mewn ystafell ddosbarth er mwyn ysbrydoli dysgwyr i fod yn greadigol, i gymryd yr awenau, a gwneud y dewisiadau sy’n addas iddyn nhw. Rydym yn hyblyg ac yn gallu addasu i anghenion newidiol ein dysgwyr.

Mae ein lefelau uchel o arbenigedd yn ein gwneud yn fodelau rôl ac yn fentoriaid rhagorol. Rydym yn adnabod ac yn cefnogi anghenion dysgwyr, yn monitro eu cynnydd, ac yn rhannu ein hadborth i’w helpu i dyfu.

Sut bynnag y byddwn yn cyflwyno dysgu seiliedig ar waith, cawn ein hysgogi gan angerdd i weld dysgwyr yn llwyddo ac yn tyfu fel unigolion. Rydym yn gweithio’n agos â chyflogwyr a rheolwyr i ddarparu profiad dysgu o ansawdd, gan gefnogi dysgwyr a’u helpu i gyflawni eu hamcanion dysgu ac ennill cymwysterau.

* Gall y rôl hon gael ei hadnabod hefyd fel hyfforddwr DSW.

LLWYBRAU I MEWN I’R RÔL

Gall y rhain gynnwys:

  • Profiad mewn diwydiant neu addysg
  • Gweithio fel athro neu gynorthwyydd addysgu lefel uwch (CALU) mewn ysgol
  • Gweithio mewn lleoliad AB

 

Y CYMWYSTERAU Y BYDD EU HANGEN ARNOCH

Dylai tiwtor dysgu seiliedig ar waith feddu ar y cymwysterau a’r profiad angenrheidiol i weithio yn eu maes dewisol. Er nad yw’n orfodol, gall ymarferwyr hefyd ennill tystysgrif addysg i raddedigion (TAR) mewn addysg a hyfforddiant ôl-orfodol (AHO), neu gymhwyster cyfatebol. Mae’r TAR mewn AHO yn rhaglen addysg athrawon broffesiynol sy’n darparu cymhwyster yn y sector addysg a hyfforddiant ôl-orfodol.

Chwiliwch yma am ddarparwyr cymwysterau

SGILIAU A PHRIODOLEDDAU ALLWEDDOL AR GYFER Y RÔL

  • y gallu i ysgogi ac ysbrydoli dysgwyr
  • sgiliau cyfathrebu cryf
  • y gallu i ddefnyddio tystiolaeth ac ymchwil i wella ymarfer mewn addysgu ac asesu
  • ymrwymiad i gynnal a diweddaru gwybodaeth am faes/meysydd pwnc
  • y gallu i gydweithio â phobl ar lefelau gwahanol
  • sgiliau trefnu a chynllunio effeithiol

​​​​​​

 

  • sgiliau gwrando ac arsylwi cryf
  • hyder wrth gyflwyno i grwpiau o fyfyrwyr
  • gwybodaeth gadarn am yr alwedigaeth
  • hyder a gallu wrth ddefnyddio TGCh, gan gynnwys technolegau digidol, i gefnogi addysgu a dysgu
  • sgiliau Cymraeg – bydd y lefelau gofynnol yn amrywio, yn dibynnu ar y swydd, ond disgwylir ymrwymiad i’r Gymraeg ym mhob rôl (hyd yn oed os ydych ond yn datblygu eich sgiliau fel dechreuwr)
  • ymrwymiad i ddiogelu dysgwyr a phobl ifanc
  • ymrwymiad i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.

 

Chwiliwch yma am swyddi

CYFLEOEDD AR GYFER DATBLYGIAD

Gall y rhain gynnwys:

  • Cynghorydd Ansawdd Mewnol
  • Rheolwr Ardal/DSW