BETH YW DARLITHYDD ADDYSG BELLACH?

Rydym yn helpu grŵp amrywiol o ddysgwyr i ddarganfod sgiliau, angerddau a thalentau newydd fel y gallant ennill y cymwysterau sydd eu hangen arnynt i gyflawni eu huchelgeisiau yn y dyfodol.

Rydym yn cyflwyno darlithoedd, tiwtorialau ac arddangosiadau mewn amrywiaeth o leoliadau megis colegau, canolfannau cymunedol, a sefydliadau cyflogwyr, gyda’r nod cyffredin o ysbrydoli dysgwyr i gredu ynddynt eu hunain a’u gallu i lwyddo.

Mae lefel y cymorth a’r arweiniad a ddarparwn yn cael ei phennu bob amser gan anghenion unigol dysgwyr a’u hamcanion gyrfaol. Rydym yn monitro cynnydd ac yn rhoi adborth ar brofion a gwaith cwrs. Yn aml, rydym yn gweithredu fel modelau rôl a mentoriaid – ac rydym bob amser yno i helpu dysgwyr i wneud y penderfyniadau sy’n addas iddyn nhw.

Mae ein cariad at ein pwnc yn golygu ein bod wedi ymrwymo i gynnal a diweddaru ein gwybodaeth bynciol, yn ogystal â’r ffordd orau i addysgu ac asesu. Rydym yn ddysgwyr gydol oes ac yn defnyddio tystiolaeth ac ymchwil i wella ein harfer yn barhaus.

Rydym yn angerddol ac yn ymroddedig i’r hyn a wnawn, gan ymdrechu i helpu dysgwyr i gyflawni eu potensial, a mwynhau eu hastudiaethau, a chyflawni’r canlyniadau gorau posibl.

LLWYBRAU I MEWN I’R RÔL

Gall y rhain gynnwys:

  • Diwydiant, e.e. crefftwr medrus, y sector lletygarwch, arbenigwr TG, hyfforddwr chwaraeon, gwasanaethau cyhoeddus
  • Graddedigion â gradd berthnasol, tystysgrif addysg i raddedigion (TAR) o bosibl, neu gymwysterau addysgu eraill
  • Athrawon ysgol yn trosglwyddo i AB
  • Rolau darlithio mewn colegau neu brifysgolion eraill
  • Staff AB sydd wedi dechrau mewn rolau cymorth ac wedyn yn ymgymryd â hyfforddiant athrawon

Y CYMWYSTERAU BYDD EU HANGEN ARNOCH

Er mwyn cymhwyso fel darlithydd addysg bellach, fel arfer mae angen meddu ar gymhwyster Lefel 3 o leiaf yn y maes pwnc dewisol. Mae llawer o ddarlithwyr AB hefyd wedi ennill graddau, graddau sylfaen, neu gymwysterau proffesiynol. Er nad yw’n orfodol ar gyfer cael eu penodi i’r rôl, mae’n ofynnol i ddarlithwyr AB ennill TAR mewn addysg a hyfforddiant ôl-orfodol (AHO), sef rhaglen addysg athrawon broffesiynol sy’n darparu cymhwyster yn y sector addysg a hyfforddiant ôl-orfodol o fewn dwy flynedd (amser llawn) neu bedair blynedd (rhan-amser).

Chwiliwch yma am ddarparwyr cymwysterau

SGILIAU A PHRIODOLEDDAU ALLWEDDOL AR GYFER Y RÔL
  • y gallu i ysgogi ac ysbrydoli dysgwyr
  • sgiliau cyfathrebu cryf
  • y gallu i gydweithio â phobl ar lefelau gwahanol
  • sgiliau trefnu a chynllunio effeithiol
  • sgiliau gwrando ac arsylwi cryf
  • hyder wrth gyflwyno i grwpiau o fyfyrwyr
  • y gallu i ddefnyddio tystiolaeth ac ymchwil i wella ymarfer mewn addysgu ac asesu
  • ymrwymiad i gynnal a diweddaru gwybodaeth am faes/meysydd pwnc
  • amlochredd – o bosibl yn cynnwys y gallu i addysgu mwy nag un maes pwnc
  • hyder a gallu wrth ddefnyddio TGCh, gan gynnwys technolegau digidol, i gefnogi addysgu a dysgu
  • sgiliau Cymraeg – bydd y lefelau gofynnol yn amrywio, yn dibynnu ar y swydd, ond disgwylir ymrwymiad i’r Gymraeg ym mhob rôl (hyd yn oed os ydych ond yn datblygu eich sgiliau fel dechreuwr)
  • ymrwymiad i ddiogelu dysgwyr a phobl ifanc
  • ymrwymiad i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.

 

Cliciwch yma am swyddi

CYFLEOEDD AR GYFER DATBLYGIAD

Gall y rhain gynnwys:

  • Uwch ddarlithydd / darlithydd arbenigol
  • Pennaeth adran
  • Cydlynydd rhaglenni
  • Rolau rheoli