BETH YW TECHNEGYDD?

Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â darlithwyr addysg bellach (AB) neu reolwyr perthnasol eraill i ddarparu cymorth technegol i ddysgwyr wrth sicrhau bod deunyddiau dysgu, offer a chyfarpar yn cael eu cynnal a’u cadw a’u paratoi ar gyfer gweithdai a gweithgareddau ystafell ddosbarth.

Rydym yn cefnogi darparwyr addysg bellach a dysgwyr wrth annog cyfranogiad llawn mewn dysgu, gan hyrwyddo annibyniaeth a helpu dysgwyr i ddeall a chyflawni’r hyn y gallant ei wneud.

Rydym yn cynorthwyo staff hyfforddi a darlithio gydag arddangosiadau yn y dosbarth, ac yn cynorthwyo dysgwyr wrth iddynt weithio mewn sefyllfaoedd ymarferol.

Rydym yn gyfrifol am lawer o’r agweddau ar iechyd a diogelwch yn yr ystafell ddosbarth, gan sicrhau bod ystafelloedd ac adnoddau yn bodloni rheolau iechyd a diogelwch.

LLWYBRAU I MEWN I’R RÔL

Gall y rhain gynnwys:

  • Gweithio mewn ystod o rolau mewn diwydiant neu addysg

Y CYMWYSTERAU Y BYDD EU HANGEN ARNOCH

 

Fel arfer, bydd technegwyr angen cymhwyster Lefel 3 o leiaf, neu brofiad galwedigaethol cyfatebol, a bydd angen cymhwyster proffesiynol ar rai. Bydd llawer o golegau AB hefyd yn chwilio am dystiolaeth o sgiliau a gwybodaeth a ddatblygwyd trwy brofiad perthnasol.

Chwiliwch yma am ddarparwyr cymwysterau

SGILIAU A PHRIODOLEDDAU ALLWEDDOL AR GYFER Y RÔL

  • sgiliau cyfathrebu cryf
  • amynedd, sensitifrwydd a phwyll
  • y gallu i ddilyn cyfarwyddiadau a gweithio fel rhan o dîm effeithiol
  • y gallu i annog ymddygiad cadarnhaol
  • sgiliau gwrando da
  • sgiliau mentora a hyfforddi
  • sgiliau trefnu cryf

​​​​​​

 

  • hyder a gallu wrth ddefnyddio TGCh, gan gynnwys technolegau digidol, i gefnogi addysgu a dysgu
  • sgiliau Cymraeg – bydd y lefelau gofynnol yn amrywio, yn dibynnu ar y swydd, ond disgwylir ymrwymiad i’r Gymraeg ym mhob rôl (hyd yn oed os ydych ond yn datblygu eich sgiliau fel dechreuwr)
  • ymrwymiad i ddiogelu dysgwyr a phobl ifanc
  • ymrwymiad i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.

 

Chwiliwch yma am swyddi

CYFLEOEDD AR GYFER DATBLYGIAD

 

 

Gall y rhain gynnwys:

  • Uwch dechnegydd
  • Arweinydd tîm
  • Ymgymryd â thystysgrif addysg i raddedigion (TAR) mewn addysg a hyfforddiant ôl-orfodol (AHO) a dod yn ddarlithydd AB