Cyhoeddwyd y safonau proffesiynol ar gyfer staff cymorth addysg bellach a dysgu seiliedig ar waith ym mis Gorffennaf 2023.

Maen nhw’n ceisio hyrwyddo proffesiynoldeb ymarferwyr addysg bellach, dysgu seiliedig ar waith ac addysg oedolion, a darparu fframwaith ar gyfer dysgu proffesiynol parhaus, gan hyrwyddo arferion gwell trwy hunanfyfyrio a chydweithio, ac felly sicrhau addysgu, dysgu ac asesu o ansawdd uchel. Mae’r safonau’n dangos rhagoriaeth mewn ymarfer proffesiynol addysg bellach, dysgu seiliedig ar waith ac addysg oedolion, gan ddarparu fframwaith ar gyfer eich datblygiad proffesiynol parhaus trwy gydweithio a hunanfyfyrio i sicrhau darpariaeth o ansawdd uchel ar draws y sector. 

Archwiliwch y safonau

 

Mae’r offeryn rhyngweithiol isod yn caniatáu i chi archwilio’r hyn y mae’r safonau’n ei olygu i chi ac edrych ar gymhwyso’r safonau ar wahanol lefelau ymarfer – archwilio, ymsefydlu a thrawsnewid.

Deall pwysigrwydd y Gymraeg a diwylliant Cymru fel cenedl ddwyieithog:

manteisio ar gyfleoedd i ddathlu diwylliant amrywiol Cymru a’i lle yn y byd

dilyn cyfleoedd i ddatblygu fy Nghymraeg fy hun a hyrwyddo ei phwysigrwydd i eraill 

Rhoi pwys ar amrywiaeth, cyfle cyfartal a chynhwysiant, a’u hyrwyddo:

cofleidio amrywiaeth ac eiriol dros gynhwysiant

herio gwahaniaethu yn ei holl ffurfiau 

Dangos urddas, cwrteisi a pharch tuag at eraill:

gwrando ar safbwyntiau, barn a syniadau pobl eraill, a’u parchu

bod yn fodel o ymddygiad teg, cwrtais a pharchus

Cynnal a diweddaru gwybodaeth ofynnol a’r ffordd orau o gefnogi dysgwyr:

cadw i fyny â datblygiadau ym maes penodol fy nghyfrifoldeb (a all gynnwys ADY, technolegau digidol i gefnogi dysgwyr neu les dysgwyr)

darparu cymorth wedi’i bersonoli i ddysgwyr, ar sail eu hanghenion unigol 

Dangos ymrwymiad i gynnydd, diogelwch a lles dysgwyr:

ysbrydoli, cefnogi ac ymestyn dysgwyr, gan gyfrif am eu hanghenion dysgu a chymorth unigol

gweithio gydag eraill i sicrhau bod dysgwyr yn cael eu cefnogi’n llawn 

Cefnogi dysgu, addysgu ac asesu effeithiol:

cefnogi’r gwaith o baratoi, cyflwyno ac asesu rhaglenni dysgu, lle bo’n briodol

cefnogi dysgwyr i gael at ddysgu, addysgu ac asesu effeithiol 

Gwybod sut i ddefnyddio tystiolaeth ac ymchwil i wella fy ymarfer:

cael at ymchwil o amrywiaeth o ffynonellau ac arbrofi â’r ymchwil honno

myfyrio ar y damcaniaethau a’r ymchwil ddiweddaraf gyda chydweithwyr ac archwilio’u perthnasedd i fy nghyd-destun i

Meithrin perthnasoedd cadarnhaol a chydweithredol:

gweithio i feithrin a chynnal perthnasoedd â dysgwyr, cydweithwyr, cyflogwyr ac eraill, fel y bo’n briodol.

cymryd rhan mewn rhwydweithiau dysgu proffesiynol a chyfrannu atynt 

Galluogi dysgwyr i rannu cyfrifoldeb am eu dysgu a’u hasesu eu hunain:

mabwysiadu dull person ganolog wrth weithio gyda phob dysgwr i hybu annibyniaeth a’u hannog i gymryd rhan yn llawn mewn dysgu

cyfathrebu’n effeithiol â phob dysgwr, cydweithiwr, cyflogwr a phobl eraill fel y bo’n briodol 

Dangos ymrwymiad i gynaliadwyedd:

ysbrydoli a symbylu dysgwyr a chydweithwyr i wneud y newidiadau y mae eu hangen i gyflawni sero net

cynorthwyo dysgwyr i gaffael y wybodaeth a’r sgiliau y mae eu hangen i hyrwyddo datblygu cynaliadwy 

Myfyrio’n feirniadol ar fy ngwerthoedd, fy ngwybodaeth a’m sgiliau fy hun i wella dysgu:

datblygu fy sgiliau llythrennedd, rhifedd a llythrennedd digidol fy hun ochr yn ochr â sgiliau proffesiynol priodol eraill

arfarnu fy ymarfer fy hun yn feirniadol a’i addasu yng ngoleuni myfyrdod ac adborth, gan gynnwys adborth gan ddysgwyr