Cyhoeddwyd safonau proffesiynol ar gyfer AB a DSW ym mis Hydref 2023.

Maen nhw’n ceisio hyrwyddo proffesiynoldeb arweinwyr AB, DSW ac addysg oedolion, a darparu fframwaith ar gyfer dysgu proffesiynol parhaus, gan hyrwyddo arferion gwell trwy hunanfyfyrio a chydweithio, ac felly sicrhau addysgu, dysgu ac asesu o ansawdd uchel. Mae’r safonau’n dangos rhagoriaeth mewn ymarfer proffesiynol AB, DSW ac addysg oedolion, gan ddarparu fframwaith ar gyfer eich datblygiad proffesiynol parhaus trwy gydweithio a hunanfyfyrio i sicrhau darpariaeth o ansawdd uchel ar draws y sector.

Archwiliwch y safonau

Mae’r offeryn rhyngweithiol isod yn caniatáu i chi archwilio’r hyn y mae’r safonau’n ei olygu i chi ac edrych ar gymhwyso’r safonau ar wahanol lefelau ymarfer – archwilio, ymsefydlu a thrawsnewid.

Gwybod sut i ddefnyddio tystiolaeth ac ymchwil i wella fy arweinyddiaeth

cynnal gwybodaeth gyfredol am ddatblygiadau lleol a chenedlaethol i gynorthwyo â’r strategaeth a meincnodi

cymryd rhan mewn ymchwil weithredol ystyrlon i wella addysgu a dysgu, a phrofiad dysgwyr 

Gwerthfawrogi ac yn hyrwyddo amrywiaeth, cyfle cyfartal a chynhwysiant

sicrhau bod polisïau, gweithdrefnau ac arferion sefydliadol yn gysylltiedig ag amrywiaeth, cydraddoldeb a chynhwysiant yn cael eu hyrwyddo a’u gweithredu, bod eu heffaith yn cael ei hasesu a’u bod yn gyfredol bob amser

sicrhau bod prosesau ar waith, a’u bod yn cael eu monitro, i alluogi staff ar draws y sefydliad i herio pob math o wahaniaethu 

Datblygu a gweithredu polisïau a strategaethau effeithiol i gefnogi’r gwaith o gyflwyno dysgu, addysgu ac asesu effeithiol

hyrwyddo a hwyluso darpariaeth effeithiol i fodloni anghenion dysgwyr, cyflogwyr a’r economi leol a chenedlaethol

arwain arferion a dulliau sy’n galluogi llythrennedd digidol a’r defnydd o dechnolegau digidol i wella addysgu a dysgu 

Cynnal a diweddaru gwybodaeth am bolisïau a strategaethau sy’n berthnasol i fy sector

cadw i fyny ag arfer da allanol ac ymchwil yn gysylltiedig â meysydd fy arweinyddiaeth

cynnal gwybodaeth am y rhaglenni rydym ni’n eu cyflwyno fel sefydliad a deall newidiadau yn dibynnu ar fy rôl 

Meithrin perthnasoedd cadarnhaol a chydweithredol

chwarae rhan flaenllaw mewn grwpiau mewnol a chynrychioli fy sefydliad trwy gymryd rhan yn weithgar mewn grwpiau a rhwydweithiau allanol

defnyddio sgiliau trafod uwch i hwyluso perthnasoedd proffesiynol gyda chydweithwyr a rhanddeiliaid

Gwybod sut i ddefnyddio tystiolaeth ac ymchwil i wella fy arweinyddiaeth

cynnal gwybodaeth a dealltwriaeth feirniadol o ymchwil a datblygiadau allweddol mewn polisi addysg a deddfwriaeth, a manteisio ar gyfleoedd i rannu a chymhwyso gwybodaeth

myfyrio ar y damcaniaethau a’r ymchwil ddiweddaraf gyda chydweithwyr ac archwilio’u perthnasedd i fy nghyd-destun arwain 

Meithrin perthnasoedd cadarnhaol a chydweithredol

meithrin a chynnal perthnasoedd strategol â rhanddeiliaid mewnol ac allanol, gan gynnwys dysgwyr

bod yn llysgennad ar ran y sefydliad 

Dangos arweinyddiaeth, uniondeb, cwrteisi a pharch tuag at eraill

bod yn fodel o ymddygiad ar gyfer ymddygiadau teg, cwrtais a pharchus, ac enghreifftio gwerthoedd proffesiynol arweinyddiaeth

gwrando ar safbwyntiau pobl eraill a’u parchu, a sicrhau bod safbwyntiau a syniadau cydweithwyr ar draws y sefydliad yn cael eu clywed 

Deall pwysigrwydd y Gymraeg a diwylliant Cymru fel cenedl ddwyieithog

nodi a manteisio ar gyfleoedd i’r sefydliad (a chydweithwyr) ddathlu diwylliant amrywiol Cymru a’i lle yn y byd

mynd ar drywydd cyfleoedd i ddatblygu fy Nghymraeg fy hun a sicrhau bod gan staff yr hyder a’r sgiliau 

Sefydlu a chynnal prosesau ac ymagweddau strategol sy’n galluogi dysgwyr i rannu cyfrifoldeb am eu dysgu a’u hasesu eu hunain

sicrhau bod prosesau ar waith sy’n grymuso dysgwyr i osod nodau a thargedau uchelgeisiol ac i werthuso’u cynnydd eu hunain yn erbyn y rhain, a monitro’r gwaith o weithredu’r ymagweddau hyn a’u heffaith

sicrhau bod mecanweithiau priodol ar waith ar gyfer cyfathrebu’n effeithiol â phob dysgwr, cyflogwr ac eraill fel y bo’n briodol 

Dangos arweinyddiaeth a llywodraethiant strategol effeithiol

sicrhau bod fy ngwybodaeth am lywodraethu sefydliadol ac arweinyddiaeth strategol effeithiol yn parhau’n gyfredol ac yn berthnasol

sicrhau bod fy arweinyddiaeth strategol a’m llywodraethiant yn bodloni anghenion dysgwyr, cydweithwyr a rhanddeiliaid 

Dangos ymrwymiad i ddysgwyr, eu dysgu, eu diogelwch a’u lles

galluogi staff i ddatblygu strategaethau a dulliau i ysbrydoli, cefnogi ac ymestyn dysgwyr, gan gyfrif am eu pwyntiau cychwyn a’u hopsiynau dilyniant

sicrhau bod staff yn cael eu cefnogi, eu hyfforddi a’u mentora’n llawn i sicrhau bod dysgwyr yn cael eu cefnogi’n llawn 

Myfyrio’n feirniadol ar ein gwerthoedd, ein gwybodaeth a’n sgiliau ein hunain i wella dysgu ac arweinyddiaeth

datblygu fy sgiliau arweinyddiaeth fy hun ochr yn ochr â sgiliau proffesiynol priodol eraill

arfarnu fy ymarfer fy hun yn feirniadol a’i addasu yng ngoleuni myfyrdod ac adborth 

Dangos ymrwymiad i gynaliadwyedd

sicrhau bod polisïau, gweithdrefnau ac arferion sefydliadol yn gysylltiedig â chynaliadwyedd yn cael eu datblygu, eu hyrwyddo, eu gweithredu a bod eu heffaith yn cael ei hasesu

ysbrydoli, symbylu a galluogi dysgwyr a chydweithwyr i wneud y newidiadau y mae eu hangen i gyfrannu at gynllun Llywodraeth Cymru i gyflawni sero net.