Mae tri math penodol o DPP.
Dysgu a bennir gan y sefydliad rydych yn gweithio iddo
Adwaenir hyn fel DPP Sefydliadol, ac mae’n cael ei guradu gan eich sefydliad i’ch helpu i ddeall negeseuon a disgwyliadau corfforaethol. Gallai rhywfaint ohono fod o ganlyniad i reolau’ch sefydliad, ac mae rhywfaint ohono o ganlyniad i ofynion y llywodraeth, fel sicrhau y cydymffurfir â phynciau hollbwysig fel diogelu.
Mae asesu, cofrestru a hyfforddiant staff gorfodol yn enghreifftiau o DPP Sefydliadol
Dysgu sy’n angenrheidiol i gadw eich sgiliau presennol yn gyfredo
Mae DPP o’r math hwn yn canolbwyntio ar barhau i ddysgu a chadw’r sgiliau proffesiynol sy’n ofynnol fel rhan o’ch rôl yn gyfredol. Fel gweithwyr proffesiynol deuol, rydych yn dechnegwyr arbenigol yn ogystal ag addysgwyr, felly mae’n allweddol bwysig parhau i ddatblygu’ch sgiliau.
O fis Ebrill 2024 ymlaen, bydd yn ofynnol i’r holl staff addysgu mewn addysg bellach feddu ar gymhwyster addysgu Lefel 5 o leiaf. Gall eich sefydliad eich helpu gyda hyn trwy gymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru.
Dysgwch fwy am ba gymwysterau sydd ar gael i chi.
Dysgu a bennir gennych chi, ar gyfer eich datblygiad eich hun.
Mae DPP hefyd yn cwmpasu dysgu hunangyfeiriedig ar gyfer eich twf proffesiynol a phersonol. Yn aml, mae'r math hwn o DPP, yr ydych chi'n ei ddewis ac yn ei deilwra i'ch anghenion, yn profi i fod y mwyaf effeithiol a boddhaus, gan y gallwch chi gyfeirio'ch dysgu i gyd-fynd â'ch dyheadau a'ch diddordebau.
Cyn i chi ddechrau ar ddysgu hunangyfeiriedig DPP, mae'n bwysig myfyrio'n bersonol; meddwl am eich bylchau gwybodaeth a ble rydych chi am fynd â'ch ymarfer proffesiynol, a chyfeirio at y safonau proffesiynol fel eich canllaw.
Mae’r Pasbort Dysgu Proffesiynol (PDP) yn offeryn ar-lein hyblyg, sydd ar gael i holl gofrestreion Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), sy’n llawn nodweddion a ddyluniwyd i’ch helpu i gofnodi eich dysgu, myfyrio arno, ei rannu a’i gynllunio, gyda’r nod o wella’ch ymarfer, yn y pen draw.
Mae hefyd yn caniatáu i chi gael mynediad am ddim at EBSCO, sef y gronfa ddata ymchwil testun llawn fwyaf yn y byd ar gyfer gweithwyr addysg proffesiynol sy’n cwmpasu pob lefel addysg ac arbenigedd.
Darllenwch fwy am sut gallwch ddefnyddio’r Pasbort Dysgu Proffesiynol i wella’ch ymarfer.
Ymchwil Weithredu
Mae ymchwil weithredu yn offeryn defnyddiol sy’n caniatáu i chi ymchwilio i’ch ymarfer eich hun, dadansoddi gwybodaeth, a rhoi gwelliannau ar waith sy’n sbarduno newid cadarnhaol yn eich ymarfer, eich amgylchedd dysgu, a’ch sefydliad.
Cliciwch yma i gael gwybodaeth am ddod yn ymchwilydd gweithredu
Nid dim ond acronym bachog yw DPP; ymrwymiad gydol oes ydyw i wella’ch sgiliau a’ch gwybodaeth drwy gydol eich taith yrfaol. Nid yw dysgu’n dod i ben pan fyddwch yn cael swydd – yn hytrach, dyma ddechrau pennod newydd o’ch datblygiad!
Cymrodoriaeth Addysgu Technegol
Mae’r rhaglen Cymrodoriaeth Addysgu Technegol yn dathlu, datblygu a rhannu ymarfer eithriadol ym maes addysgu technegol, gan rymuso arbenigedd diwydiannol a thechnegol y genhedlaeth nesaf.
Y Gronfa Dysgu Proffesiynol
Mae dysgu proffesiynol mewn addysg yn galluogi'r gweithlu i ddiweddaru eu gwybodaeth a'u sgiliau er mwyn bod yn barod i addysgu'n effeithiol er budd y dysgwr.
Mae Adran 5 Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022, yn nodi bod yn rhaid i Medr hyrwyddo gwelliannau parhaus yn ansawdd addysg drydyddol Cymru, a thrwy gyflawni'r ddyletswydd yma, bod yn rhaid iddynt nodi:
- pwysigrwydd sicrhau bod aelodau o'r gweithlu addysg drydyddol yn gallu darparu addysg drydyddol o ansawdd uchel
- gofynion rhesymol aelodau o'r gweithlu addysg drydyddol ar gyfer datblygiad proffeisynol parhaus
Mae Adran 5(3) yn nodi mai aelodau'r gweithlu addysg drydyddol yw:
- athrawon personau sy'n derbyn addysg drydyddol
- personau sy'n darparu cefnogaeth i athrawon o'r fath
- personau sy'n darparu cefnogaeth i ddysgwyr i gyfranogi o addysg drydyddol
Dyrennir y Gronfa Dysgu Proffesiynol i sefydliadau addysg bellach yng Nghymru i ganolbwyntio ar ddysgu proffesiynol ac ymgorfforu ac adlewyrchu datblygiadau polisi presennol i gryfhau gwybodaeth a sgiliau'r gweithlu AB.
Mae mwy o wybodaeth ar gael yn - Cyllid Dysgu Proffesiynol (PLF) Addysg Bellach Blwyddyn Academaidd 2025/26 neu gallwch e-bostio gweithlu@medr.cymru