Gweithio
trwy
gyfrwng
y Gymraeg 

Gwlad ddwyieithog yw Cymru, gyda dros 900,000 o siaradwyr Cymraeg. Felly, dylai’r dewis i weithio trwy gyfrwng y Gymraeg fod yn hygyrch i bawb.

Os ydych chi'n awyddus i weithio yn y sector ac yn dymuno gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg, mae llawer o gymorth ar gael i'ch helpu chi.


Cymraeg 2050

Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targed uchelgeisiol o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn y flwyddyn 2050. Cymraeg 2050 yw Strategaeth newydd Llywodraeth Cymru ar gyfer y Gymraeg ac mae’n amlinellu sut mae’r llywodraeth yn bwriadu cyflawni’r uchelgais hwn.

 

Darllenwch fwy am y strategaeth Cymraeg 2050 yma

Yn y sector addysg ôl-16, prif bwyslais y strategaeth yw meithrin cynnydd a grymuso unigolion o bob gallu i ddatblygu sgiliau Cymraeg, yn bersonol ac yn broffesiynol. Mae hyn yn golygu bod arnom angen mwy o athrawon ac aseswyr sy’n gallu addysgu ac asesu trwy gyfrwng y Gymraeg, ac sy’n barod i wneud hynny.

 

Ni waeth beth fo’ch lefel hyfedredd bresennol, p’un a ydych yn siaradwr Cymraeg rhugl, yn ddysgwr sy’n dymuno magu mwy o hyder, neu’n rhywun sy’n chwilfrydig ynglŷn â dysgu, mae cyrsiau a rhaglenni wedi’u teilwra ar gael i weddu i’ch anghenion. 

 

Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Sgiliaith, a Dysgu Cymraeg yn cynnig amrywiaeth eang o adnoddau sy’n addas i ddysgwyr ar bob cam o’u taith Gymraeg.

Cyllid ar gyfer Hyfforddi Athrawon

 

Os ydych yn siarad Cymraeg, ac yn awyddus i ddechrau gyrfa addysgu ym maes addysg bellach, mae Cynllun Cymhelliant Hyfforddi Athrawon Llywodraeth Cymru yn cynnig grant ychwanegol o £1,000 i’r rhai sy’n astudio am Dystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR) amser llawn mewn addysg bellach trwy gyfrwng y Gymraeg.

 

Dysgwch fwy am y cymhelliant yma