Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Coleg Cymraeg Cenedlaethol
EIN CYFEIRIADAU:
  • Coleg Cymraeg Cenedlaethol
  • Y Llwyfan
  • Caerfyrddin
  • Carmarthenshire
  • SA31 3EQ
Amdanom Ni

Ni yw’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. 

Ryn ni’n creu cyfleoedd astudio ac hyfforddi yn y Gymraeg drwy weithio gyda:

  • cholegau addysg bellach, 
  • prifysgolion,  
  • darparwyr prentisiaethau  
  • a chyflogwyr.  

Ryn ni’n datblygu cyfleoedd i fyfyrwyr allu defnyddio’r Gymraeg sydd gyda nhw yn fwy hyderus. Mae ein gwaith yn cynnwys: 

  • Annog pobl i ddilyn cyrsiau a hyfforddiant yn Gymraeg a dwyieithog yn y colegau addysg bellach, prifysgolion a gyda darparwyr prentisiaethau 
  • Cynnig ysgoloriaethau i ddysgwyr a myfyrwyr i astudio rhannau o’u cyrsiau yn Gymraeg 
  • Rhoi grantiau, a chydweithio gyda cholegau a phrifysgolion i ddatblygu modiwlau a chyrsiau cyfrwng Cymraeg ar draws pynciau 
  • Creu adnoddau dysgu Cymraeg a dwyieithog i gefnogi darlithwyr a myfyrwyr 
  • Trefnu digwyddiadau trwy ein canghennau yn y prifysgolion a cholegau, i roi cyfleoedd i fyfyrwyr a dysgwyr i ddefnyddio eu Cymraeg bob dydd. 

Ryn ni’n annog pawb i ddefnyddio’u sgiliau Cymraeg er mwyn creu gweithlu dwyieithog i’r dyfodol, a symud yn nes at uchelgais Llywodraeth Cymru o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn y flwyddyn 2050. 

Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol – agor drysau drwy addysg a hyfforddiant yn y Gymraeg.