Ysbrydola'r genhedlaeth nesaf a defnyddia dy brofiadau yn yr ystafell ddosbarth. Hyffordda i addysgu uwchradd yng Nghymru yn y Gymraeg a gelli wneud gwahaniaeth i gannoedd o ddysgwyr.

Mae ysgolion angen mwy o athrawon sy'n gallu siarad Cymraeg – ym mhob pwnc.

Bydd yn arbenigwr yn dy bwnc. Mae Cymru angen mwy o athrawon uwchradd, yn enwedig mewn pynciau â blaenoriaeth:

  • Bioleg
  • Cemeg
  • Dylunio a Thechnoleg
  • Technoleg Gwybodaeth
  • Mathemateg
  • Ieithoedd Tramor Modern
  • Ffiseg
  • Cymraeg

PAM ADDYSGU YNG NGHYMRU?

Mae addysgu yn mynd y tu hwnt i'r dosbarth. Drwy addysgu yng Nghymru yn y Gymraeg, gelli gael dylanwad syfrdanol ar ddysgwyr, eu teuluoedd a'u cymunedau.

Rhanna dy ddiwylliant yn yr ystafell ddosbarth. Rhanna dy angerdd dros y Gymraeg gyda’r genhedlaeth nesaf. Addysga yn yr iaith ti’n ei charu.

Ehanga dy wybodaeth a datblyga dy hun gyda chyfleoedd i hyfforddi trwy gydol dy yrfa.

Teimla'n sicr yn dy yrfa: dechreua ar dy yrfa addysgu ar £32,400 y flwyddyn, gyda'r potensial i ennill hyd at £140,600 y flwyddyn fel Pennaeth.

SUT I DDOD YN ATHRO

Mae yna sawl ffordd o hyfforddi i addysgu ac ennill Statws Athro Cymwysedig (SAC). Dewisa lwybr sy'n dy siwtio di, naill ai un rhan-amser neu rywbeth mwy hyblyg i weddu dy amserlen.

Gelli astudio Tystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR) mewn nifer o brifysgolion ledled Cymru, gyda rhaglenni AGA llawn-amser ar gael drwy:

Angen mwy o hyblygrwydd? Mae'r Brifysgol Agored yn cynnig TAR rhan-amser, a TAR Cyflogedig ble y gelli hyfforddi tra dy fod yn gweithio mewn ysgol.

Mae cyfle i ti hefyd astudio a phrofi lleoliad gwaith yn y Gymraeg mewn ysgol cyfrwng Cymraeg.

CYMORTH ARIANNOL

Eisiau addysgu yn y Gymraeg? Gallet fod yn gymwys i dderbyn cymelliadau ariannol i dy gefnogi wrth hyfforddi:

A mwy:

Mae gwybodaeth am gyllid ar gyfer rhaglenni Addysg Gychwynnol i Athrawon (AGA) i'w gael ar wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru.

 

Cath
Athrawes – Gwyddoniaeth
"Mae'n bwysig fod yna bobl o wahanol gefndiroedd yn addysgu pynciau STEM mewn ysgolion. Gallwch chi ddim bod yr hyn nad ydych chi'n ei weld."
Paul
Athro - Gwyddoniaeth
“Dwi wedi gweithio mewn llawer o ddiwydiannau, ond mae addysgu yn rhoi rhywbeth arbennig i ti. Nid oes dim byd tebyg."
Amanda
Athrawes – Cerddoriaeth
“Dwi'n credu bod yr iaith Gymraeg yn hollol bwysig i'n hunaniaeth ni, i ni fel pobl, i ni fel cenedl.”

CYMWYSTERAU SYDD EU HANGEN

  • C mewn TGAU Mathemateg a Chymraeg neu Saesneg, neu radd sy’n gyfwerth.
  • C mewn TGAU Gwyddoniaeth ar gyfer athrawon cynradd hefyd.
  • A gradd addas o brifysgol i wneud cais am raglen TAR.

Gall dy brifysgol gynnig arweiniad ynghylch graddau perthnasol a chymhwysedd AGA penodol.

Wyt ti eisiau addysgu yn y Gymraeg ond yn poeni am safon dy iaith? Mae cymorth ar gael i ti:

  • Gall Addysgwyr Cymru neu’r AGA ti’n ei ddewis helpu gyda’r sgiliau Cymraeg rwyt ti eu hangen i addysgu yn y Gymraeg.

Mae consortia rhanbarthol ac awdurdodau lleol yn darparu ystod o gyfleoedd dysgu proffesiynol i ddatblygu dy sgiliau Cymraeg.

PAM DEWIS ADDYSGU?

Der â dy angerdd i'r ystafell dosbarth o dan Cwricwlwm i Gymru.

Mae yna hefyd ddigonedd o gefnogaeth ar gyfer dysgu proffesiynol drwy gydol dy yrfa.

CAMAU NESAF

Cysyllta am fwy o wybodaeth ac i drafod dy opsiynau.

Digwyddiadau - Ymuna â ni mewn digwyddiad - mewn diwrnod agored prifysgol, gallwn dy helpu gyda dy gais ac i baratoi ar gyfer cyfweliad.

Dilyna Addysgu Cymru - ein hymgyrch ar gyfer athrawon uchelgeisiol yng Nghymru.

Facebook   X   LinkedIn   Instagram

Gwna gais am brofiad gwaith mewn ysgol leol i gael blas ar sut beth yw sefyll o flaen dosbarth.

PWY YDYN NI?

Gall Addysgwyr Cymru dy helpu, dim ots ar ba ran o dy siwrnai wyt ti - o ymgeiswyr dan hyfforddiant i athrawon cymwysedig sy'n chwilio am swyddi gwag. Gallwn dy helpu i ddarganfod dy swydd ddelfrydol ar ein tudalen swyddi.

Cysyllta gyda un o'r tîm heddiw!

Ffonia 02920 460099

Ebostia: gwybodaeth@addysgwyr.cymru 

Am sgwrs gyda’r tîm

Mae gan Addysgwyr Cymru bopeth rwyt ti ei angen i archwilio llwybrau a chyfleoedd gyrfa o fewn addysg. Cymer olwg.

 

DYSGA’R

DYFODOL

HEDDIW.