MANYLION
  • Lleoliad: Caerphilly,
  • Testun:
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Math o gyflog: Fesul awr
  • Salary Range: £12.00 - £14.00
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 09 Mai, 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Hebryngydd Croesfannau Ysgol

Hebryngydd Croesfannau Ysgol

Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
Hebryngydd Croesfannau Ysgol
Disgrifiad swydd
Rydyn ni'n recriwtio Hebryngydd Croesfannau Ysgol yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.
Oriau gwaith: 6 awr, 15 munud yr wythnos
Math o gontract: Parhaol, Rhan Amser, Yn Ystod y Tymor yn Unig
Lleoliad: Ysgol Gynradd Gymraeg Caerffili

Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â Thîm Caerffili a darparu cymorth ar draws y Timau Strategaeth Trafnidiaeth a Diogelwch Ffyrdd ehangach.

Rydyn ni'n talu cyflog deniadol o £12.18 - £12.38 yr awr ac yn cynnig mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu.

Ydych chi'n chwilio am waith gyda phlant?

Ydych chi'n egnïol, yn ofalgar, yn brydlon, yn ddibynadwy ac yn ymroddedig i gadw plant yn ddiogel?

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am oruchwylio disgyblion a cherddwyr eraill i sicrhau eu bod nhw’n croesi'n ddiogel mewn lleoliad penodol wrth fynd i'r ysgol ac wrth adael, gan sicrhau eu hiechyd a diogelwch ar bob adeg.

Mae'r swydd ar gyfer Hebryngwr Croesfan Ysgol o ddydd Llun i ddydd Gwener yn Ysgol Gynradd Gymraeg Caerffili a fydd yn cynnwys dwy sifft y dydd, un ar ddechrau'r diwrnod ysgol ac un ar y diwedd. Mae'r safle croesi wedi'i leoli yn Pontygwindy Road.

Byddwch chi'n cydymffurfio â'n polisïau ac yn sicrhau bod pawb yn cadw at reoliadau, o fewn y Canllawiau a’r Llawlyfr Hebryngwyr Croesfannau Ysgol.

Rhaid i chi fod yn gyfathrebwr effeithiol a bydd disgwyl i chi gysylltu â rheolwyr, rhieni, dysgwyr a'r ysgol yn llwyddiannus.

Ar gyfer y rôl, rydyn ni'n gofyn i chi fod â'r canlynol:
  • Dealltwriaeth dda o ddefnydd ffyrdd ac ymwybyddiaeth o draffig
  • Sgiliau cyfathrebu da
  • Y gallu i deithio o amgylch y Fwrdeistref Sirol

Mae gennym ni fuddion rhagorol gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, a chynlluniau disgownt i staff.

I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, dewiswch yr atodiad perthnasol o’r rhestr atodiadau

Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Kerry Watkins ar 01443 866538 neu ebost: watkikg@caerphilly.gov.uk

Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.

Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â webrecruitment@caerphilly.gov.uk am ragor o wybodaeth

Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.