MANYLION
  • Lleoliad: Aberteifi, SA43 1AB
  • Testun:
  • Cytundeb: gweithio hyblyg
  • Math o gyflog: Fesul awr
  • Salary Range: £22.00 - £24.00
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 08 Mehefin , 2024 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Darlithydd mewn Trin Gwallt

Darlithydd mewn Trin Gwallt

Coleg Sir Gar
Darlithydd mewn Trin Gwallt
Department: Arall

Employment Type: Dim Oriau

Location: Campws Aberteifi

Compensation: £21.49 - £42.28 / awr

DescriptionA ydych chi'n ddarlithydd trin gwallt profiadol sydd am ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o ddysgwyr?
Neu a ydych chi'n arbenigwr yn y diwydiant sydd am drosglwyddo eich gwybodaeth i eraill?

Mae gan Coleg Ceredigion gyfle cyffrous iawn ar gyfer Darlithydd mewn Trin Gwallt i ymuno â'r tîm ar ein Campws yn y Aberteifi.

Cyfrifoldebau AllweddolMae rhaglenni trin gwallt yn amrywio o bartneriaethau cyswllt ysgolion 14-16 a chyrsiau addysg bellach/uwch o lefel 1 i lefel 4. Ceir gwahanol ffyrdd o astudio ar gyfer y dysgwyr, yn amrywio o ddysgu llawn amser, rhan-amser a dysgu yn y gwaith. Mae'r dysgwyr yn elwa ar ystod eang o weithgareddau allgyrsiol a system cymorth tiwtorial sefydledig. Caiff y cymhwyster Bagloriaeth Cymru hefyd ei gynnig ochr yn ochr â nifer o gyrsiau. Caiff gwaith y dysgwyr ei arddangos yn rheolaidd mewn digwyddiadau yn y Coleg ac yn allanol. Yn ogystal, mae dysgwyr trin gwallt wedi cael llwyddiant mewn cystadlaethau rhanbarthol, ar lefel y DU a chystadlaethau World Skills.

Beth sydd ei angen arnoch chi?Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus feddu ar NVQ Lefel 3 mewn trin gwallt ac, yn ddelfrydol, cymhwyster addysgu. Fodd bynnag, os nad ydych yn meddu ar gymhwyster addysgu ar ddyddiad dechrau'r swydd, cewch eich cefnogi i ennill TAR o fewn 2 flynedd i'r dyddiad hwn. Yn ogystal, bydd angen profiad o'r diwydiant arnoch a diddordeb brwd mewn cefnogi myfyrwyr i fod y gorau gallant fod.