MANYLION
  • Lleoliad: Cwmcarn,
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 01 Mawrth, 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Cynorthwyydd Addysgu Lefel 1- Ysgol Gynradd Cwmcarn -

Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
Cynorthwyydd Addysgu Lefel 1- Ysgol Gynradd Cwmcarn -
Disgrifiad swydd
Cynorthwyydd Addysgu Lefel 1 neu Ganolfan Adnoddau Anghenion Arbennig (SNRB) ar gyfer dysgwyr ag anghenion cymhleth o flynyddoedd 1–6

Gradd 3 Lefel 1

Mae Corff Llywodraethu Ysgol Gynradd Cwmcarn yn awyddus i benodi Cynorthwyydd Addysgu, ar sail barhaol, yn dechrau ar ôl gwyliau'r Pasg, ddydd Llun 8 Ebrill, neu cyn gynted â phosibl wedi hynny.

Mae gan yr ysgol eisoes ddau ddosbarth anghenion cymhleth hynod lwyddiannus ar gyfer hyd at 16 o ddysgwyr. Bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus gynorthwyo'r athro yn y dosbarth gyda rhaglenni astudio hyblyg, sy'n canolbwyntio ar y plentyn, ar gyfer unigolion ag amrywiaeth o anawsterau dysgu cymhleth.

Efallai bod gennych chi brofiad o weithio gyda disgyblion ag anghenion addysgol ychwanegol a'u hintegreiddio nhw'n llwyddiannus i mewn i ysgol gynradd brysur a bywiog neu'r gallu i ddysgu'n gyflym ac angerdd am weithio gyda phlant ag anghenion cymhleth. Mae'r holl staff sy'n gweithio yn y Canolfannau Adnoddau Anghenion Arbennig yn cymryd rhan mewn gofal personol pan fo angen, fel cymorth i fynd i'r toiled neu newid dillad plant.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus:
  • wedi ymrwymo'n llwyr i addysg gynhwysol
  • wrth ei fodd â her
  • yn meddu ar sgiliau rhyngbersonol rhagorol
  • yn gyfrifol am weithio gyda'r athro i greu amgylchedd dysgu cyffrous
  • â pheth profiad o weithio gyda phlant mewn lleoliad ysgol.

Rydyn ni'n ymfalchïo mewn bod yn gymuned ddysgu gynnes, ofalgar a chroesawgar gyda phlant a staff hapus, gweithgar. Gan fod gennym ni eisoes Ganolfan Adnoddau Anghenion Arbennig lwyddiannus, byddai llawer o gymorth ar gael i staff newydd. Ein nod yw sicrhau bod pawb yn cyflawni eu potensial.

Bydd ymgeiswyr sy'n cyrraedd y rhestr fer yn cael cyfweliad ffurfiol.

I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, dewiswch yr atodiad perthnasol o’r rhestr atodiadau.

Am ffurflen gais, cysylltwch â'r ysgol yn uniongyrchol ar 01495 270494. Dylai ffurflenni cais wedi eu llenwi gael eu dychwelyd at Mrs H Robbins, Pennaeth, yn y cyfeiriad uchod. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch â Mrs Robbins ymlaen llaw ar y rhif uchod.

Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

O dan Ddeddf Addysg (Cymru) 2014, mae rhaid i’r holl staff Cymorth Dysgu (sy’n cynnwys y swyddi y sonir amdanynt yma) fod wedi cofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg dros Gymru o 1 Ebrill 2016.

Bydd eich cyflogaeth yn dibynnu ar dystiolaeth ddigonol o’ch cofrestriad a’ch cofrestriad parhaol, fel Cynorthwyydd Cymorth Dysgu gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.

Gellir dod o hyd i wybodaeth am sut i gofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg ar y wefan hon https://www.ewc.wales/site/index.php/cy/ neu drwy ffonio 02920 460099. Eich cyfrifoldeb ydi sicrhau eich bod yn cofrestru ac yn parhau i gofrestru yn unol â thermau a thelerau eich cyflogaeth.

Mae rhwymedigaeth gyfreithiol arnom ni i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig. Os cewch chi eich gwahodd i gyfweliad, byddwn ni'n gofyn i chi ddarparu dogfennau priodol, fel eich tystysgrif geni lawn/pasbort/trwydded waith, yn unol â Deddf Lloches a Mewnfudo 1996.

Mae'r swydd hon wedi ei heithrio o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei chynnal yn achos pob ymgeisydd. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad uwch gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.