MANYLION
  • Lleoliad: Mynydd Cynffig Primary,
  • Oriau: Not Specified
  • Cytundeb: Not Specified
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 14 Chwefror, 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Pennaeth - Ysgol Gynradd Mynydd Cynffig

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Pennaeth - Ysgol Gynradd Mynydd Cynffig
Disgrifiad swydd
32.5 awr yr wythnos

Mae Ysgol Gynradd Mynydd Cynffig wedi'i lleoli ger cyffordd 37 traffordd yr M4. Mae'r ysgol yn gwasanaethu cymuned leol Mynydd Cynffig a'r dalgylch ehangach ac mae'n ysgol leol uchel ei pharch a phoblogaidd gyda thua 417 o blant ar y gofrestr.

Rydym yn chwilio am Bennaeth â gweledigaeth glir i barhau'r ymgyrch i sicrhau safonau uchel yn yr ysgol. Bydd yn ofynnol i chi ddarparu arweinyddiaeth i'r ysgol i gynnal ei llwyddiant ac i sicrhau addysg o safon uchel i bob disgybl a pharhau i godi safonau cyflawniad.

A chithau'n Bennaeth, Dirprwy Bennaeth, arweinydd ysgol neu'n weithiwr proffesiynol addysg profiadol, bydd gennych brofiad rheoli gyda sgiliau arweinyddiaeth, sefydliadol a rhyngbersonol amlwg. Byddwch yn ymroddedig i weithio mewn partneriaeth â disgyblion, staff, rhieni a llywodraethwyr, a'r gymuned leol i ddarparu amgylchedd lle mae'r staff a'r disgyblion yn cael eu cynorthwyo i gyflawni eu potensial llawn.

Mae cynigion am ysgol newydd yn destun ymgynghoriad ar hyn o bryd a bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus rôl bwysig i'w chwarae wrth arwain ein hysgol wrth i ni ddechrau pennod nesaf ein hanes.  Mae ein hysgol yn ymfalchïo yn y cysylltiadau cryf gyda grwpiau a sefydliadau lleol, gan alluogi'r ysgol i gefnogi ein cymuned ehangach.  Hoffai'r llywodraethwyr benodi arweinydd sy'n gallu sicrhau bod yr ysgol yn parhau wrth galon y gymuned wrth i ni symud i gyfleuster pwrpasol. 

Rhaid i ymgeiswyr sy'n gwneud cais am eu penodiad cyntaf yn Bennaeth feddu ar y CPCP.

Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn ofyniad ar gyfer y swydd hon.

Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.

Mae gwiriad cofnodion troseddol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.

Dyddiad cau: 14 Chwefror 2024

Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 22 Chwefror 2024

Dyddiadau'r cyfweliad: 14 a 15 Mawrth 2024

Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr

Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person