MANYLION
  • Lleoliad: Heronsbridge,
  • Oriau: Not Specified
  • Cytundeb: Not Specified
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 14 Chwefror, 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Swyddog Gofal Plant Preswyl – Ysgol Heronsbridge

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Swyddog Gofal Plant Preswyl - Ysgol Heronsbridge
Disgrifiad swydd
32.33 awr ynghyd â chysgu i mewn

Dros dro am hyd at 1 flwyddyn 

Yn ystod tymor yr ysgol

Mae Ysgol Heronsbridge yn ysgol arbennig a gynhelir ar gyfer plant rhwng 3 ac 19 oed ag anawsterau dysgu difrifol.

Mae'r llywodraethwyr yn ceisio penodi unigolyn ymroddedig ag amynedd ac egni i weithio yn ein tai preswyl gyda phlant a phobl ifanc sydd ag awtistiaeth.

Mae NVQ lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol neu gyfwerth a phrofiad o weithio gyda phlant yn hanfodol.

Mae'r swydd yn 4 noswaith yr wythnos, yn ystod tymor yr ysgol yn unig.  Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio'n unol â rota 3 wythnos benodol fel a ganlyn:-

Wythnos 1       4 noswaith o ddydd Llun i ddydd Iau gan gysgu i mewn unwaith yr wythnos

Wythnos 2       4 noswaith o ddydd Llun i ddydd Iau gan gysgu i mewn unwaith yr wythnos

Wythnos 3       4 sifft effro o ddydd Llun i ddydd Iau

Dyma'r oriau:-

3.15pm tan 10.00pm nosweithiau

7.30am tan 9.00am boreau (ar ôl cysgu i mewn)

10.00pm tan 9.00am sifftiau effro

Mae sifftiau gyda'r nos yn cynnwys ½ awr o egwyl ddi-dâl.

Gofynnir i ymgeiswyr nodi y bydd yn ofynnol i'r ymgeisydd llwyddiannus gytuno ar gynnal cliriad cofnod troseddol manwl.

Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.

Dylai ymgeiswyr nodi y bydd yn angenrheidiol i'r ymgeisydd llwyddiannus gael gwiriad cofnodion troseddol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).

Dyddiad Cau: 14 Chwefror 2024

Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr

Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person