MANYLION
  • Lleoliad: Caerphilly,
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 15 Chwefror, 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Ysgol Gynradd Gatholig Santes Helen Dirprwy Bennaeth

Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
Ysgol Gynradd Gatholig Santes Helen Dirprwy Bennaeth
Disgrifiad swydd
Ysgol Gynradd Gatholig Santes Helen

Dirprwy Bennaeth Graddfa Arweinyddiaeth 07 – 11

I ddechrau ar 1 Medi 2024 neu cyn gynted â phosibl wedi hynny (yn dilyn yr holl wiriadau diogelu a recriwtio)

Ar ran y plant, mae Llywodraethwyr Ysgol Gynradd Gatholig Santes Helen yn awyddus i benodi Dirprwy Bennaeth ymroddedig, llawn cymhelliant, brwdfrydig ac ysbrydoledig.

Mae Ysgol Santes Helen yn ysgol gynnes a chroesawgar yng nghanol Caerffili sy'n gwasanaethu plant o'r ardal leol, yn ogystal â Chaerffili gyfan, fel yr unig ysgol Gatholig yn yr ardal. Yn Ysgol Santes Helen, rydyn ni wedi ymrwymo i ddatblygu'r plentyn cyfan i gyflawni ei lawn botensial, gan hyrwyddo ethos o gymuned, parch at ei gilydd, balchder, creadigrwydd ac uchelgais, gyda Christ yn ganolog.

Mae hwn yn gyfle gwych i arweinydd sydd am fod yn rhan o dîm cyfeillgar, ymroddedig, sy'n benderfynol o wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau ein pobl ifanc.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn bodloni'r meini prawf canlynol:
  • Catholig mewn gair a gweithred gyda gweledigaeth glir a chred mewn addysg Gatholig
  • Athro rhagorol sy'n arwain drwy arferion rhagorol
  • Arweinydd sydd â'r gallu i gynnal y safonau presennol yn ogystal â symud yr ysgol ymlaen yn nhermau addysgu a dysgu
  • Person trefnus sydd â sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu rhagorol
  • Arweinydd sydd wedi ymrwymo i les a chynnydd academaidd pob plentyn
  • Person sy'n gwerthfawrogi pobl ac yn cydnabod pwysigrwydd tosturi a hiwmor
  • Person sy'n gallu gweithio mewn partneriaeth agos gyda'r Pennaeth wrth arwain ein staff ymroddedig a thalentog.

Gallwn ni gynnig y canlynol i chi:
  • Ysgol wirioneddol hapus lle mae plant wrth eu bodd yn dysgu ac athrawon wrth eu bodd yn eu dysgu nhw
  • Plant sy'n llawn cyffro i ddysgu ac yn frwdfrydig am eu bywyd ysgol
  • Datblygu proffesiynol a fydd yn eich arfogi â sgiliau sydd eu hangen ar gyfer dyrchafiad pellach
  • Rôl lle rydych chi'n cael eich cynnwys yn llawn wrth wneud penderfyniadau arweinyddiaeth i ddatblygu dull arloesol o ymdrin ag addysg
  • Staff ymroddedig a llawn cymhelliant, rhieni sy'n rhan o bethau, a chorff llywodraethu gweithgar a chefnogol.

Rydyn ni'n croesawu ymweliadau â'r ysgol er mwyn cael rhagor o wybodaeth am y swydd a bydd dysgwr ar gael i dywys partïon sydd â diddordeb ar daith o amgylch yr ysgol ar gais. Os hoffech chi fanteisio ar hyn, cysylltwch â swyddfa'r ysgol ar 029 2085 3532 i drefnu apwyntiad.

Mae Ysgol Gynradd Santes Helen wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles ein plant a phobl ifanc ac yn disgwyl i staff a gwirfoddolwyr rannu'r ymrwymiad hwn. Mae'r swydd hon yn amodol ar Wiriad Uwch gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person dewiswch yr atodiad perthnasol o'r rhestr atodiadau.

Gallwch chi drefnu sgwrs anffurfiol am y swydd drwy gysylltu â'r Pennaeth, Sophie Sanchez, drwy swyddfa'r ysgol StHelensRCPrimary@sch.caerphilly.gov.uk

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw: dydd Iau 15 Chwefror 2024

Bydd y rhestr fer yn cael ei llunio: dydd Llun 19 Chwefror 2024

Bydd arsylwadau gwersi yn digwydd: yn ystod yr wythnos yn cychwyn dydd Llun 26 Chwefror 2024

Bydd cyfweliadau'n cael eu cynnal: dydd Llun 4 Mawrth 2024 a dydd Mawrth 5 Mawrth 2024

Gwnewch gais ar-lein isod.

Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.

Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â webrecruitment@caerphilly.gov.uk am ragor o wybodaeth.