MANYLION
  • Lleoliad: Trelales Primary,
  • Oriau: Not Specified
  • Cytundeb: Not Specified
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 14 Mawrth, 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Pennaeth - Ysgol Gynradd Trelales

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Pennaeth - Ysgol Gynradd Trelales
Disgrifiad swydd 32.5 awr yr wythnos

ISR L14 – L20

Yn ofynnol i ddechrau Medi 2024

Mae Llywodraethwyr Ysgol Gynradd Trelales yn chwilio am arweinydd angerddol, arloesol, ac ysbrydoledig sy'n meddu ar y sgiliau proffesiynol angenrheidiol i adeiladu ar y sylfeini cadarnhaol iawn a'r perthnasoedd rhagorol sydd eisoes yn eu lle.

Rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn arweinydd cydnerth a fyddai'n tyfu'r weledigaeth bresennol ar gyfer yr ysgol, wrth symud blaenoriaethau lleol a chenedlaethol ymlaen.

Rydym yn chwilio am bennaeth gweladwy a hawdd mynd ato sy'n gorfod dangos:

Ymrwymiad i wella ein gweledigaeth a'n hethos.

Angerdd dros gefnogi a gwella llesiant pawb.

Cred y gall pob plentyn lwyddo.

Sgiliau arweinyddiaeth strategol cryf ac ymrwymiad i gynnal safonau uchel o addysgu a dysgu, gan alluogi pob plentyn i gyrraedd ei botensial llawn.

Sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu rhagorol, yn gallu ysgogi a grymuso eraill.

Gallu edrych y tu hwnt i gatiau'r ysgol a datblygu perthnasoedd cadarnhaol, effeithiol gyda theuluoedd a'r gymuned ehangach.

Yn gyfnewid, gallwn gynnig y canlynol i chi:

Tîm proffesiynol a gofalgar o staff.

Plant hapus, brwdfrydig sy'n mwynhau dysgu a chyfleoedd ehangach.

Cymuned ysgol gefnogol

Amgylchedd gofalgar, meithringar sy'n galluogi pob disgybl i ddatblygu dyheadau cadarnhaol a chyrraedd safonau uchel.

Llywodraethwyr ymroddedig a phrofiadol

Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.

Mae gwiriad cofnodion troseddol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.

Dyddiad llunio rhestr fer: 19 Chwefror 2024

Dyddiad Cyfweld: 06 Mawrth 2024

Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr

Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person