MANYLION
  • Lleoliad: Port Talbot, Neath Port Talbot, SA12 6HZ
  • Testun: Tiwtor Oedolion
  • Oriau: Rhan amser
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Dyddiad Dechrau: 01 February, 2022
  • Dyddiad Gorffen: 31 July, 2022
  • Math o gyflog: Fesul awr
  • Salary Range: £25.40 - £25.40
  • Iaith: Dwyieithog

This job application date has now expired.

Tiwtor Llythrennedd Digidol

Tiwtor Llythrennedd Digidol

Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales
Mae gennym gyfle gwych ar gyfer diwtoriaid Llythrennedd Digidol cymwysedig i ymuno â sefydliad ledled Cymru sydd wedi ymrwymo i wasanaethu poblogaeth oedolion Cymru gyda chyfleoedd ysbrydoledig sy'n newid bywyd. Mae Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales yn fudiad democrataidd, annibynnol a gwirfoddol, sydd wedi ymrwymo i ehangu cyfranogiad, hyrwyddo dinasyddiaeth weithredol a datblygu sgiliau a darparu dysgu o'r ansawdd gorau, gan weithio ar y cyd gyda'i bartneriaid.
Rydym yn chwilio am diwtoriaid Llythrennedd Digidol cymwys, medrus iawn i gyflwyno Llythrennedd Digidol i ddysgwyr yn Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe. Byddai'r gallu i gyflenwi'n ddwyieithog yn fantais, ond nid yw'n hanfodol.

Byddwch yn cynllunio, datblygu, cyflwyno, gwerthuso ac asesu rhaglenni dysgu ym maes Llythrennedd Digidol, yn unol ag anghenion dysgwyr a gweithdrefnau ansawdd Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales. Byddwch yn cyflwyno dysgu Llythrennedd Digidol o ansawdd uchel gan ddefnyddio ystod o ddulliau addysgu ac yn defnyddio ystod o ddulliau asesu priodol yn unol ag anghenion y dysgwyr a gofynion y corff dyfarnu. Byddwch yn sicrhau bod y dysgwyr yn cael adborth clir ac adeiladol o fewn amserlenni priodol.

JOB REQUIREMENTS
Mae isafswm cymhwyster addysgu Lefel 3 ynghŷd â a chymhwyster Ymarferwyr Llythrennedd Digidol Lefel 3 yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Bydd gennych brofiad o addysg gymunedol, addysg oedolion, darpariaeth Llythrennedd Digidol, a chymryd rhan mewn gweithdrefnau ansawdd mewnol. Byddai gwybodaeth am dechnolegau dysgu digidol, cymhwyster addysgu Lefel 5, a cymwysterau mewn Arweiniad Addysg Oedolion ac Ansawdd Mewnol yn ddymunol.

Mae Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth ac i greu amgylchedd gwaith cynhwysol. Credwn fod cael gweithlu amrywiol ar bob lefel yn caniatáu i ni gynrychioli'r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu.

Mae safbwyntiau a phrofiadau amrywiol yn hanfodol i'n llwyddiant ac rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb o bob cefndir sydd gyda’r profiad a'r sgiliau anghenrheidiol i gyflawni'r rôl hon.