MANYLION
  • Lleoliad: Ysgol Bryn Castell,
  • Oriau: Not Specified
  • Cytundeb: Not Specified
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 10 Ionawr, 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Swyddog Cymorth Arbennig - Ysgol Bryn Castell

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Swyddog Cymorth Arbennig - Ysgol Bryn Castell
Disgrifiad swydd 32.5 awr yr wythnos – Tymor yr Ysgol
 

Mae angen person brwdfrydig, llawn cymhelliant ac ymrwymedig ar Gorff Llywodraethu Ysgol Bryn Castell i gynorthwyo disgyblion ag anawsterau Ymddygiadol, Emosiynol a Chymdeithasol gan gynnwys Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) fel Swyddog Cymorth Arbennig mewn amgylchedd ysgol arbennig.

 

Byddai rhywfaint o brofiad o weithio gydag anghenion addysgol arbennig, yn enwedig disgyblion ag anawsterau Ymddygiadol, Emosiynol a Chymdeithasol (BESD) ar draws y cyfnod cynradd ac uwchradd yn fanteisiol.

 

Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus fynediad at amrywiaeth o fuddion i gyflogeion gan gynnwys:

 

Gall pob cyflogai gael mynediad at raglen Gwobrwyon Brivilege sy'n rhoi mynediad i chi at yr holl arbedion a buddion sy'n deillio o fod yn un o gyflogeion Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Gan gynnwys gostyngiadau gan brif fanwerthwyr.

 

Hamdden â Chymhorthdal: Mae pob cyflogai'n gymwys i brynu Bridgecard ar gyfraddau gostyngol sy'n cynnig mynediad am ddisgownt i ganolfannau hamdden y cyngor yn y fwrdeistref.

 

Buddion aberthu cyflog gan gynnwys y cynllun beicio i'r gwaith.

 

Gwasanaethau Iechyd Galwedigaethol: ceir amrywiaeth o wasanaethau sydd ar gael i hyrwyddo lles y staff. Mae'r rhain yn cynnwys cwnselydd mewnol, mynediad llawn at wasanaethau iechyd corfforol a meddyliol SAS a mynediad at VIVUP sy'n gallu darparu amrywiaeth o gymorth gan gynnwys cymorth ariannol, llesiant meddyliol a chorfforol.

 

Hyfforddiant a Datblygiad: Mae Ysgol Bryn Castell yn cydnabod pwysigrwydd dysgu i lwyddiant y sefydliad ac rydym yn ymrwymedig i fuddsoddi yn ein staff a'u datblygu.

 

Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn ofyniad ar gyfer y swydd hon.

 

Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.

 

Mae gwiriad cofnodion troseddol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.

 

Dyddiad Cau: 18 Ionawr 2024

Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 24 Ionawr 2024

Dyddiadau'r Cyfweliad: 31 Ionawr ac 1 Chwefror 2024

Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr

Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person