MANYLION
  • Lleoliad: Coleg Cambria,
  • Testun:
  • Cytundeb:
  • Math o gyflog: Annual
  • Salary Range: £20,000.00 - £25,000.00
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 03 Mai, 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Cymhorthydd Dysgu CC/2514

Cymhorthydd Dysgu CC/2514

Coleg Cambria
Disgrifiad Swydd

Coleg Cambria: Cyflwyniad

Yng Ngholeg Cambria, ein nod yw bod yn sefydliad addysg eithriadol. Ar ôl cael arolwg canmoliaethus gan Estyn yn ddiweddar, yn ogystal â Gwobr Platinwm y Safon Iechyd Corfforaethol yn y Gwaith, rydym yn teimlo bod hyn yn ddechrau da.

Rydym yn rhoi croeso cynnes i holl fyfyrwyr a staff i wneud Coleg Cambria yn lle rydych chi eisiau bod yn rhan ohono. Er mwyn sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael y profiad a'r canlyniadau gorau y gallant eu cael, rydym yn sicrhau fod y bobl rydym yn eu cyflogi yn hapus. Rydym yn meithrin amgylchedd gwaith cadarnhaol, gweithlu sy'n ehangu ac yn gwella'n gyson, ac yn cynnig y cyfle i chi herio'ch hun. Yn ogystal â hynny, mae gennym ystod eang o fudd-daliadau i sicrhau fod ein gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, gan gynnwys gwyliau blynyddol hael, pecyn pensiwn gwych, ac aelodaeth â disgownt i'n campfeydd, ein salonau a'n bwytai hyfforddi proffesiynol.

Mae ein 5 safle, sydd wedi'u lleoli mewn ardal odidog yng Ngogledd Cymru, yn ehangu ac yn datblygu'n gyson. Gyda pherthnasoedd cryf gyda nifer o gwmnïau yn yr ardal, rydym yn helpu rhoi'r dechrau gorau i'n myfyrwyr i'w gyrfaoedd ac yn helpu'r economi leol i ffynnu. Mae gan Gymru ddiwylliant cadarn a balch, ac rydym yn parhau i ddatblygu'r gwerthoedd pwysig hynny trwy ymrwymo i hyrwyddo'r Gymraeg. Rydym yn falch iawn o'r hyn rydym wedi'i adeiladu yma ac rydym bellach yn chwilio am rywun i wella ein gweithlu sydd eisoes yn eithriadol.

Crynodeb o'r Swydd

Rhagori ar ddisgwyliadau drwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth...

Teitl y Swydd: Cymhorthydd Dysgu

Lleoliad: Ffordd Y Bers

Y Math o Gontract: Cyfnod Penodol, Rhan amser (18.75 awr yr wythnos, dros 36 wythnos / contract 12 mis)

Cyflog: £21,069 - £21,490 (cyflog llawn amser yw hwn, bydd y cyflog yn pro rata yn ddibynnol ar eich patrwm gwaith)

Rydyn ni'n chwilio am fath arbennig o berson sy'n wych gyda phobl ifanc.

Os ydy hynny'n wir amdanoch chi, yna rydyn ni eisiau eich cyfarfod chi. Mae gennym ni gyfle gwych ar gyfer Cymhorthydd Dysgu yn ein tîm cefnogol.

Gan ddefnyddio eich sgiliau cyfathrebu, eich profiad perthnasol a'ch dealltwriaeth o wahaniaethau dysgu, byddwch yn cefnogi pobl ifanc gydag anghenion dysgu i gyflawni eu nodau.

Rydyn ni wedi ymrwymo i hyrwyddo'r Gymraeg, ac rydym yn croesawu ceisiadau yn Gymraeg.

Bydd gofyn i ymgeiswyr llwyddiannus gael gwiriad DBS.

Buddion

Cynllun(iau) pensiwn ardderchog

Hawl gwyliau blynyddol hael

Darpariaeth feithrin ar ein safle yng Nglannau Dyfrdwy

Gostyngiadau ar ystod o gyrsiau gyda'r nos y coleg

Mynediad i ystod eang o gyrsiau e-ddysgu a datblygiad proffesiynol

Disgownt ar aelodaeth ystafell ffitrwydd

Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd ardderchog

Parcio am ddim ar bob safle

Cynllun Beicio

Cyfraddau gostyngol ar gyfer trin gwallt a thriniaethau harddwch

Cyfraddau gostyngol yn ein bwytai

Absenoldeb mamolaeth, mabwysiadu a thadolaeth estynedig