MANYLION
  • Lleoliad: Coleg Cambria,
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 12 Ionawr, 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Darlithydd mewn Peirianneg Uwch CC/2512

Coleg Cambria
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person

Coleg Cambria: Cyflwyniad

Yng Ngholeg Cambria, ein nod yw bod yn sefydliad addysg eithriadol. Ar ôl cael arolwg canmoliaethus gan Estyn yn ddiweddar, yn ogystal â Gwobr Platinwm y Safon Iechyd Corfforaethol yn y Gwaith, rydym yn teimlo bod hyn yn ddechrau da.

Rydym yn rhoi croeso cynnes i holl fyfyrwyr a staff i wneud Coleg Cambria yn lle rydych chi eisiau bod yn rhan ohono. Er mwyn sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael y profiad a'r canlyniadau gorau y gallant eu cael, rydym yn sicrhau fod y bobl rydym yn eu cyflogi yn hapus. Rydym yn meithrin amgylchedd gwaith cadarnhaol, gweithlu sy'n ehangu ac yn gwella'n gyson, ac yn cynnig y cyfle i chi herio'ch hun. Yn ogystal â hynny, mae gennym ystod eang o fudd-daliadau i sicrhau fod ein gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, gan gynnwys gwyliau blynyddol hael, pecyn pensiwn gwych, ac aelodaeth â disgownt i'n campfeydd, ein salonau a'n bwytai hyfforddi proffesiynol.

Mae ein 5 safle, sydd wedi'u lleoli mewn ardal odidog yng Ngogledd Cymru, yn ehangu ac yn datblygu'n gyson. Gyda pherthnasoedd cryf gyda nifer o gwmnïau yn yr ardal, rydym yn helpu rhoi'r dechrau gorau i'n myfyrwyr i'w gyrfaoedd ac yn helpu'r economi leol i ffynnu. Mae gan Gymru ddiwylliant cadarn a balch, ac rydym yn parhau i ddatblygu'r gwerthoedd pwysig hynny trwy ymrwymo i hyrwyddo'r Gymraeg. Rydym yn falch iawn o'r hyn rydym wedi'i adeiladu yma ac rydym bellach yn chwilio am rywun i wella ein gweithlu sydd eisoes yn eithriadol.

Crynodeb o'r Swydd

Rhagori ar ddisgwyliadau drwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth...

Teitl y Swydd: Darlithydd mewn Peirianneg Uwch

Lleoliad: Glannau Dyfrdwy

Math o Gontract: Parhaol, Llawn amser (rydyn ni'n croesawu ceisiadau gan rai sydd â diddordeb mewn gweithio rhan-amser)

Cyflog: £30,620 - £47,331

Ydych chi'n Ddarlithydd Peirianneg profiadol yn eich maes gydag enw da am ansawdd a rhagoriaeth?

Beth am ddefnyddio eich profiad i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf! Dechreuwch eich taith tuag at addysg heddiw.

Os ydych chi'n meddwl bod gennych chi'r sgiliau peirianneg ond nid y profiad addysgu, gadewch i ni eich cynorthwyo chi i ennill y cymwysterau addysgu angenrheidiol wrth rannu eich gwybodaeth a'ch profiad.

Ar hyn o bryd mae gennym ni swydd wag ar gyfer darlithydd Peirianneg Uwch i weithio yn ein cyfleuster peirianneg 'o'r radd flaenaf' lle gall ein myfyrwyr ddysgu mewn amgylchedd ystafell ddosbarth a'r gweithdy. Gan arddangos egni a brwdfrydedd yn yr amgylchedd dysgu, byddwch chi'n addysgu yn ôl yr amserlen, paratoi deunyddiau dysgu, marcio gwaith myfyrwyr, cysylltu â chyrff dyfarnu a goruchwylio arholiadau yn ôl y gofyn, ac yn darparu arweiniad addysgol, cymorth a chwnsela i bob myfyriwr. Byddwch chi'n aelod da o dîm ac yn gallu meithrin perthnasoedd gwaith effeithiol. Byddwch chi'n cysylltu â thiwtoriaid o feysydd busnes eraill ynghylch adnoddau, datblygu'r cwricwlwm, adroddiadau myfyrwyr a materion cysylltiedig eraill, ac yn cwblhau ac yn cynhyrchu dogfennau fel cofrestri, cynlluniau gwaith, cofnodion gwaith, adolygiadau cyrsiau, dogfennau dadansoddi cyrsiau ac adroddiadau myfyrwyr.

Rydyn ni'n chwilio am unigolyn sydd â chymwysterau Lefel 5 o leiaf mewn Peirianneg Fecanyddol neu Drydanol gyda gwybodaeth a sgiliau i addysgu ystod o unedau BTEC craidd ac unedau peirianneg arbenigol o lefel 3 i lefel 5; gan gynnwys; egwyddorion mecanyddol/trydanol, mathemateg peirianneg, gwyddor peirianneg a dadansoddiad. Byddwch chi'n gallu rhannu eich sgiliau a gwybodaeth am y diwydiant gyda grwpiau eang o brentisiaid a dysgwyr AB ac AU llawn amser. Byddwch chi'n awyddus i ymgymryd â datblygiad proffesiynol parhaus gan gynnwys dysgu sgiliau newydd ym maes peirianneg i gefnogi datblygiad addysgu a dysgu ar draws yr adran. Hefyd byddwch chi'n dilyn y datblygiadau diweddaraf yn y diwydiant.

Mae meysydd pwnc lefel 5 yn cynnwys, ond nid yn gyfyngedig i:
  • Cymhwyso Hafaliadau Gwahaniaethol a Thrawsnewidiadau Cyfannol i ddatrys problemau peirianneg gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau dadansoddol a chyfrifiannol; Calcwlws fector
  • CAD/CAM (Profiad Solidworks yn ddymunol)
  • Dadansoddiad elfennau penodol (theori a chymhwysiad: Solidworks, Ansys)
  • Gwyddor Deunyddiau (cysylltu priodweddau microsgopig â phriodweddau deunyddiau; dewis a phrofi deunyddiau. Cyfansoddion)

Gofynion Hanfodol
  • Cymhwyster Lefel 5 o leiaf mewn maes pwnc arbenigol perthnasol
  • Gallu canfod, dehongli a chymhwyso gwybodaeth benodol i'w harfer
  • Dangos eich bod yn deall y datblygiadau cyfredol yn eich maes arbenigol eich hun a sut y byddwch chi'n sicrhau bod gennych chi'r wybodaeth ddiweddaraf am y datblygiadau hyn
  • Adnabod cryfderau ac anghenion datblygu myfyrwyr a'u gwneud yn ymwybodol ohonynt
  • Gallu datblygu a defnyddio ystod o dechnegau dysgu ac addysgu a pharatoi deunyddiau addysgu ysgrifenedig a gweledol effeithiol
  • Byddwch chi'n greadigol, arloesol ac yn llawn dychymyg gyda'r gallu i addasu i amgylchiadau sy'n newid a syniadau newydd

Os hoffech chi drafod unrhyw elfen o'r swydd cyn gwneud cais, neu i gael trafodaeth anffurfiol yna mae pob croeso i chi anfon e-bost at recruitment@cambria.ac.uk.

Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i hyrwyddo proffil y Gymraeg.

Mae Coleg Cambria yn gyflogwr 'Hyderus o ran Anableddau'.

Mae hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn rhan hanfodol o'n gwaith, ac mae'r coleg wedi ymrwymo i gael grwp staff amrywiol fel rhan o hynny.

Mae diogelwch plant, pobl ifanc ac oedolion y nodwyd eu bod yn 'agored i niwed' yn hollbwysig ac mae Coleg Cambria wedi ymrwymo'n llwyr i ddiogelu a hyrwyddo lles yr unigolion hyn ac i weithredu gweithdrefnau a threfniadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn drwyadl. Byddwn yn gofyn am wiriad DBS gan yr ymgeisydd llwyddiannus a fydd yn cael cynnig y swydd. Byddai gofyn i chi hefyd gofrestru gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg fel Athro Addysg Bellach.

Fel arfer mae swyddi'n cael eu hysbysebu gydag ystod cyflog. Os cewch gynnig swydd yn y coleg, bydd profiad perthnasol yn cael ei ystyried er mwyn pennu eich cyflog cychwynnol.

Sylwer fod Coleg Cambria yn cadw'r hawl i gau'r rhestr ymgeiswyr yn gynnar ar gyfer unrhyw swydd pe byddwn yn derbyn nifer fawr o geisiadau. Byddwn yn argymell eich bod yn cwblhau eich cais cyn gynted â phosibl os hoffech gael eich ystyried ar gyfer y swydd hon.

Buddion

Cynllun(iau) pensiwn ardderchog

Hawl gwyliau blynyddol hael

Darpariaeth feithrin ar ein safle yng Nglannau Dyfrdwy

Gostyngiadau ar ystod o gyrsiau gyda'r nos y coleg

Mynediad i ystod eang o gyrsiau e-ddysgu a datblygiad proffesiynol

Disgownt ar aelodaeth ystafell ffitrwydd

Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd ardderchog

Parcio am ddim ar bob safle

Cynllun Beicio

Cyfraddau gostyngol ar gyfer trin gwallt a thriniaethau harddwch

Cyfraddau gostyngol yn ein bwytai