MANYLION
  • Lleoliad: Llanelli, Sa15 4DN
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Salary Range: Not Supplied
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 02 Awst, 2024 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Aelod Cyfetholedig Annibynnol (Y Pwyllgor Archwilio a Rheoli Risg)

Coleg Sir Gar
Aelod Cyfetholedig Annibynnol (Y Pwyllgor Archwilio a Rheoli Risg)
Department: Fwrdd Llywodraethwyr

Employment Type: Parhaol

Location: Campws Graig

DescriptionHoffech chi wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl ifanc yn Sir Gaerfyrddin a Cheredigion, a lles ehangach y cymunedau?

Mae'r Bwrdd Llywodraethwyr yn ceisio penodi nifer o aelodau annibynnol newydd, ac aelodau cyfetholedig i Is-bwyllgor Archwilio a Rheoli Risg y Bwrdd.
Rydym yn croesawu'n arbennig ceisiadau oddi wrth y rheiny â chefndir cyfrifeg ac archwilio; cydraddoldeb ac amrywiaeth; yn ogystal â meysydd allweddol eraill a restrir ym manyleb yr unigolyn.

Mae'r Coleg yn ymrwymedig i wella amrywiaeth y Bwrdd ac i lwyddo i gael aelodaeth sy'n adlewyrchu proffil y Coleg a'i ddysgwyr. Rydym yn croesawu ceisiadau oddi wrth ymgeiswyr o bob oed a chefndir. Rydym yn benodol yn annog ceisiadau oddi wrth ymgeiswyr o gefndiroedd ethnig. Rydym yn croesawu amrywiol bersbectifau ac yn awyddus i ddatblygu amrywiaeth y bwrdd.

Rhagor o wybodaeth am y Coleg, rôl aelod annibynnol o'r Bwrdd a'r cais
proses ar gael ar ein gwefan.

Yn ogystal, cesglir gwybodaeth monitro cydraddoldeb drwy'r broses hon.

Gellir cyfeirio ymholiadau anffurfiol at Damion Gee, Ysgrifennydd y Cwmni a Chlerc i'r Bwrdd yn governance@colegsirgar.ac.uk

Cyfrifoldebau AllweddolLlywodraethir Coleg Sir Gâr, a'i is-gorff Coleg Ceredigion, gan Fwrdd Cyfarwyddwyr Coleg Sir Gâr ynghyd â Bwrdd Coleg Ceredigion sy'n llai a nifer o bwyllgorau Bwrdd, gan gynnwys Pwyllgor Archwilio a Rheoli Risg.

Mae'r pwyllgor yn ceisio sicrhau o leiaf 5 aelod, 3 ohonynt yn aelodau Bwrdd, gan gynnwys Cadeirydd y Pwyllgor, a 2 sy'n aelodau allanol cyfetholedig. Ar ran y Byrddau, mae'r Pwyllgor yn goruchwylio'r holl faterion strategol sy'n ymwneud ag Archwilio a Rheoli Risg mewn cysylltiad â Choleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion ill dau. Teimlir bod rôl aelodau allanol yn hanfodol o ran dod â phersbectif ehangach i'r pwyllgor o du hwnt i'r sector addysg bellach.

Cyfrifoldebau allweddol aelodau allanol cyfetholedig yw:
  • Paratoi ar gyfer cyfarfodydd pwyllgor trwy ddarllen ac asesu papurau cyfarfod gan gynnwys adroddiadau archwilio mewnol ac allanol a chofrestr ac adroddiadau risg.
  • Mynychu cyfarfodydd pwyllgor yn rheolaidd a chyfrannu atynt (hyd at bedair gwaith y flwyddyn fel arfer yn para 2 awr).
  • Cyfrannu at y trafodaethau a'r gwneud penderfyniadau sy'n digwydd yn ystod cyfarfodydd o safbwynt cyffredinol fel rhywun sydd â gwybodaeth a phrofiad sy'n berthnasol i waith y pwyllgor.
  • Cadw at Gylch Gorchwyl y pwyllgor a Chod Ymddygiad y Coleg, gan gynnwys polisi ar gyfrinachedd a gwrthdaro buddiannau.
  • Cysylltu â chadeirydd y pwyllgor, y Clerc i'r Bwrdd, a swyddogion perthnasol y coleg ynghylch gwaith y pwyllgor ac unrhyw faterion gweinyddol cysylltiedig.
  • Bod yn barod i ymgymryd â/i fynychu gweithgareddau hyfforddi, datblygu a chefnogi priodol a gynigir gan y coleg sy'n ymwneud â gwaith y pwyllgor.

Manyleb yr unigolynOs byddwch yn gwneud cais i ddod yn aelod cyfetholedig annibynnol, caiff eich cais ei asesu yn erbyn y meini prawf a restrir isod.

Sgiliau dymunol
Dylai'r ymgeiswyr llwyddiannus allu dangos:
  • hanes profedig o weithredu naill ai ar lefel uwch mewn sefydliad neu o fod yn gweithredu yn yr haen ganol ac yn anelu'n weithredol i ddatblygu eu gyrfa ymhellach
  • dealltwriaeth o rôl Pwyllgor Archwilio a Risg
  • byddai cymhwyster cyfrifeg yn fanteisiol (ar gyfer 1 o'r 2 rôl sydd ar gael) gyda phrofiad busnes mwy cyffredinol yn ddymunol ar gyfer y rôl arall
  • nid yw sgiliau iaith Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y rôl hon ond croesewir ceisiadau oddi wrth y rheiny â'r fath sgiliau
  • y gallu i ddadlau'n adeiladol a herio
  • Sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol cryf
  • ymwybyddiaeth o faterion sy'n effeithio ar golegau addysg bellach
  • profiad naill ai o gyllid a/neu archwilio a/neu reoli risg.

Mae croeso i bobl wneud cais am swyddi yn Gymraeg, ac ni fydd ceisiadau a wneir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

Ymrwymiad o ran amser a thâlBydd yr ymrwymiad o ran amser yn amrywio, ond amcangyfrifir y bydd yn golygu tua 8 - 15 diwrnod y flwyddyn i baratoi ar gyfer cyfarfodydd a bod yn bresennol ynddynt ac i fynychu digwyddiadau.

Ni roddir tâl i aelodau'r corff llywodraethu ond gall aelodau, trwy weithdrefnau a nodir gan y Clerc, hawlio nôl costau teithio a thebyg a geir wrth gyflawni busnes y corff llywodraethu.