MANYLION
  • Lleoliad: Noted in the Job Description,
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 07 Rhagfyr, 2023 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Asesydd Lleoliad - Astudiaethau Plentyn (Cyfnod Mamolaeth)

Grwp Llandrillo Menai
Bydd yr Asesydd yn gyfrifol am ddarparu hyfforddiant, asesu, a lle y bo'n briodol, dilysu gwaith dysgwyr.

Dyrennir grŵp o ddysgwyr i'r asesydd a bydd disgwyl iddo ef/hi fonitro cynnydd pob dysgwr a gweithio ochr yn ochr â'r Dirprwy Reolwr, y Cydlynydd Cwricwlwm, y Cydlynydd Ymgysylltu Sector ar gyfer Iechyd a lles, yr Arweinydd Tîm perthnasol a'r Dilysydd Mewnol i sicrhau bod yr hyfforddiant a'r cymhwyster a ddilynir yn cael eu cwblhau'n llwyddiannus.

Mae'n hanfodol i'r rôl bod yr asesydd yn sicrhau bod yr holl ddogfennau priodol yn cael eu cwblhau a'u cyflwyno'n gywir ac yn brydlon. Yn ogystal, rhaid i'r asesydd sicrhau ei bod/fod yn adlewyrchu cenhadaeth, gwerthoedd ac amcanion y Grŵp.

Bydd yr asesydd yn cynrychioli'r tîm Datblygiad ac Addysg Plant a disgwylir iddo hyrwyddo'r cyrsiau a gynigir, er mwyn annog recriwtio. Byddai'r gallu i addysgu sesiynau gweithdy mewn grwpiau bach yn fuddiol.

Mae sawl agwedd i rôl yr asesydd ac maent yn cynnwys cynnal llwyth achosion o ddysgwyr Addysg Bellach amser llawn, cefnogi dysgwyr i ddatblygu dealltwriaeth o'r wybodaeth greiddiol sy'n ymwneud â'r diwydiant a hefyd gweithio ochr yn ochr â'r cyflogwr i sicrhau bod y dysgwyr yn cael cyfleoedd i ddatblygu'r sgiliau sydd eu hangen er mwyn dangos cymhwysedd i fodloni a rhagori ar ofynion y cymhwyster. Disgwylir i aseswyr ddefnyddio sgiliau rheoli amser rhagorol i gynllunio ymweliadau â lleoliadau i gynnal arsylwadau ac i roi cymorth i'r dysgwr a hefyd weithiau i'r cyflogwr, i sicrhau bod agweddau lleoliad gwaith y cymhwyster yn cael eu cwblhau'n llwyddiannus.

Mae'n bwysig gallu grymuso dysgwyr i reoli eu dysgu eu hunain ac mae hyn yn cynnwys eu cefnogi i gynllunio ar gyfer asesiadau a chydnabod eu hanghenion datblygu eu hunain yn ogystal â bod yn gyfrifol am eu datblygiad proffesiynol eu hunain. Mae sgiliau cyfathrebu effeithiol yn hanfodol ar gyfer y rôl hon gan fod aseswyr yn cysylltu ag ystod o staff eraill sy'n cefnogi'r dysgwr. Mae cyfathrebu effeithiol yn sicrhau bod y dysgwyr yn cwblhau ac yn cyflawni eu cymhwyster o fewn yr amserlen dynn. Er bod y rôl yn ymwneud yn bennaf â chefnogi dysgwyr yn y gweithle, mae disgwyliad y bydd yr asesydd hefyd yn cefnogi datblygu sgiliau ar y safle yng nghyfleusterau'r coleg yn Llangefni. Mae hyn yn golygu gweithio gyda'r dysgwyr i ddatblygu'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer lefel eu cwrs trwy arddangos, darparu cymorth un i un a chynorthwyo ac arsylwi mewn grwpiau bach.

Noder: Mae'n bosibl y bydd y broses ddethol ar gyfer y swydd wag hon yn cael ei chynnal ym mis Ionawr 2024

Manylion Swydd
Cyfeirnod y Swydd
CM/134/23

Cyflog
£25,935.06 - £28,143.59 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad

Lleoliad Gwaith
  • Wedi ei nodi yn y Swydd Ddisgrifiad

Hawl gwyliau
28 diwrnod y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad

Patrwm gweithio
37 awr yr wythnos

Hawliau Pensiwn
Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol

Math o gytundeb
Llawn Amser Cyfnod Penodol

Dyddiad cau
07 Rhag 2023
12:00 YH(Ganol dydd)