MANYLION
  • Lleoliad: Pwllheli,
  • Testun:
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Math o gyflog: Fesul awr
  • Salary Range: £12.00 - £14.00
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 05 Rhagfyr, 2023 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Mentor Llwyddiant Dysgwyr, Tymor yn Unig, Dros dro hyd at 2024

Mentor Llwyddiant Dysgwyr, Tymor yn Unig, Dros dro hyd at 2024

Grwp Llandrillo Menai
Cyflwyniad i'r swydd:
  • Ydych chi yn hoffi gweld pobl ifanc yn llwyddo?
  • Oes gennych chi y sgiliau i gael y gorau allan o bobl ifanc?
  • Ydych chi'n berson agored; hwyliog a phenderfynol?
  • Ydych chi yn hoffi gweithio a helpu pobl ifanc i gyflawni eu potensial?

............Os ydych yn ateb yr uchod yn gadarnhaol ac yn awyddus i wneud gwahaniaeth i fywydau a dyfodol pobl ifanc, yna mae'r swydd hon yn ddelfrydol ar eich cyfer chi. Byddwch yn gweithio gyda thîm o staff ymroddedig eraill i sicrhau cyfleon a chefnogaeth deilwng i ddysgwyr y Grŵp.

PWRPAS Y SWYDD

Mae Grŵp Llandrillo Menai yn peilota swyddogaeth newydd sef Mentor Llwyddiant Dysgwyr(MLlD). Bydd deiliaid y swyddi hyn yn cefnogi ein dysgwyr llawn amser i uchafu eu presenoldeb yn y coleg, canolbwyntio a chyflawni eu nodau addysgiadol.

Bydd y MLlD yn cael eu rheoli yn uniongyrchol gan Reolwyr Maes Rhaglen ac fe fyddant yn cefnogi tiwtoriaid personol i ddelio gyda'r materion dysgwyr canlynol:
  • Diffyg Presenoldeb
  • Ymddygiad annerbyniol
  • Methiant i gwblhau gwaith colegol

Bydd prif gyfrifoldebau y MLlD fel a ganlyn:
  • Cydweithio gyda staff y dysgu i sicrhau bod y dysgwyr sydd angen eu cefnogi yn cael eu hadnabod yn gynnar
  • Monitro presenoldeb dysgwyr gan ddilyn i fyny ar unrhyw faterion yn syth
  • Annog a mentora dysgwyr i wella eu presenoldeb
  • Annog a mentora dysgwyr sydd ddim yn cwblhau eu tasgau gwaith ac aseiniadau
  • Cynnal cofnodion perthnasol a chyfredol
  • Noder: Mae'n bosibl y bydd y broses ddethol ar gyfer y swydd wag hon yn cael ei chynnal ym mis Ionawr 2024

    Manylion Swydd
    Cyfeirnod y Swydd
    CMD/131/23

    Cyflog
    £ 13.27 - £14.06 yr awr (sy'n cynnwys hawl gwyliau), yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad

    Lleoliad Gwaith
    • Pwllheli

    Hawl gwyliau
    Wedi ei gynnwys yn y raddfa gyflog

    Patrwm gweithio
    25 awr yr wythnos, yn ystod tymhorau'r Coleg

    Hawliau Pensiwn
    Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol

    Math o gytundeb
    Rhan Amser Cyfnod Penodol

    Dyddiad cau
    05 Rhag 2023
    12:00 YH(Ganol dydd)