MANYLION
  • Lleoliad: Rhyl,
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: gweithio hyblyg
  • Math o gyflog: Fesul awr
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Goruchwylydd Sgiliau Ymarferol Weldio a Ffabrigo

Grwp Llandrillo Menai
Rydym yn chwilio am staff rhan-amser i ymuno ag adran sydd eisoes yn llwyddiannus sy'n falch o gefnogi staff a myfyrwyr i ragori ar lefel genedlaethol a rhyngwladol. Disgwylir i'r ymgeisydd llwyddiannus ddarparu safonau uchel o arddangos sgiliau ymarferol ym maes eu harbenigedd a rhoi cefnogaeth, cyngor ac arweiniad parhaus i fyfyrwyr sy'n hyrwyddo llwyddiant.

Disgwyliadau allweddol y rôl:

O dan chyfarwyddyd cyffredinol staff darlithio, bydd y Goruchwyliwr Sgiliau Ymarferol yn cyflwyno sesiynau ymarferol i grwpiau o ddysgwyr mewn gweithdy ymarferol a bydd yn darparu cymorth i ddarlithwyr drwy fonitro ac asesu cynnydd dysgwyr, gan ddarparu arweiniad a chymorth lle bo angen.

Manylion Swydd
Cyfeirnod y Swydd
CL/124/23

Cyflog
£17.93 - £19.14 yr awr (sy'n cynnwys hawl gwyliau), yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad

Lleoliad Gwaith
  • Y Rhyl

Hawl gwyliau
Hawl Gwyliau wedi ei gynnwys yn y raddfa gyflog a nodir

Patrwm gweithio
18.5 awr yr wythnos (Patrwm gwaith i'w gytuno yn dibynnu ar argaeledd)

38 o wythnosau'r flwyddyn

Hawliau Pensiwn
Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol

Math o gytundeb
Rhan Amser a Delir wrth yr Awr

Dyddiad cau
30 Tach 2023
12:00 YH(Ganol dydd)