MANYLION
  • Lleoliad: Pwllheli,
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: gweithio hyblyg
  • Math o gyflog: Fesul awr
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Darlithydd Peirianneg

Grwp Llandrillo Menai
Mae Adran Adeiladu a Pheirianneg Coleg Meirion Dwyfor yn adran flaengar sy'n cynnig cyrsiau mewn ystod o ddisgyblaethau. Mae addysgu a dysgu yn digwydd gyda mynediad at offer safonol y diwydiant ac mewn cyfleusterau modern.

Rydym yn chwilio am staff rhan amser i ymuno ag ochr Beirianneg yr adran; sy'n cefnogi staff a myfyrwyr yn falch i ragori ar lefel genedlaethol a rhyngwladol. Bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno safonau uchel o addysgu a dysgu a rhoi cymorth, cyngor ac arweiniad parhaus i fyfyrwyr sy'n hyrwyddo llwyddiant.

Disgwyliadau allweddol y rôl:

1. Addysgu i safon uchel er mwyn creu cyfleoedd dysgu effeithiol ac er mwyn galluogi'r holl ddysgwyr i gyflawni hyd eithaf eu gallu.

2. Darparu profiadau allgyrsiol rhagorol i'n dysgwyr.

3. Cynnal safonau uchel y ddarpariaeth â'r gefnogaeth a roddir i'r dysgwyr.

4. Sichrau bod polisiau a gweithdrefnau'r Grŵp yn cael ei dilyn.

5. Cefnogi dysgwyr i lwyddo er mwyn cyflawni eu targedau neu uwch gan herio ac ymestyn ein dysgwyr

Manylion Swydd
Cyfeirnod y Swydd
CMD/123/23

Cyflog
£19.61 - £30.31 sy'n cynnwys hawl gwyliau, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad

Lleoliad Gwaith
  • Pwllheli

Hawl gwyliau
Hawl gwyliau wedi ei gynnwys yn y raddfa gyflog a nodir

Patrwm gweithio
Hyd at 20 awr yr wythnos Dydd Llun - Dydd Gwener, yn ystod y dydd. Patrwm gwaith i'w gytuno yn ddibynnol ar argaeledd. Maer pwnc a lefel y ddarpariaeth yn seiliedig ar gymwysterau, profiad, ac anghenion adrannol.

Bydd canran ychwanegol o rhwng 10% - 63.33% (yn amodol ar feini prawf) yn cael ei gymhwyso i'r oriau cytundebol a weithiwyd i adlewyrchu paratoi a marcio

Hawliau Pensiwn
Cynllun Pensiwn Athrawon

Math o gytundeb
Rhan Amser a Delir wrth yr Awr

Dyddiad cau
30 Tach 2023
12:00 YH(Ganol dydd)