MANYLION
  • Lleoliad: Morfa, Llanelli, Llanelli,
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 07 Rhagfyr, 2023 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Swyddog Cymorth Dechrau'n Deg

Cyngor Sir Caerfyrddin
Disgrifiad

22.12 awr yr wythnos.

Ar hyn o bryd rydym yn hysbysebu am swyddog cymorth ar gyfer tîm bydwreigiaeth Dechrau'n Deg.

Gwahoddir ceisiadau gan unigolion trefnus a chryf eu cymhelliant sydd â brwdfrydedd a menter. Gallu i flaenoriaethu llwyth gwaith, gan weithio gyda menywod beichiog sy'n agored i niwed yn ardaloedd Dechrau'n Deg yn Sir Gaerfyrddin.

Gallu gweithio'n annibynnol, heb oruchwyliaeth yn y gymuned, o dan gyfarwyddyd y fydwraig. Disgwylir i'r ymgeisydd llwyddiannus weithio mewn partneriaeth ag aelodau eraill tîm amlddisgyblaeth Dechrau'n Deg.

Mae'n hanfodol cael sgiliau TG da, profiad o ddefnyddio amrywiaeth o gronfeydd data, sgiliau rhagorol o ran cyfathrebu a llythrennedd ar gyfer y rôl hon.

Rydym yn gyflogwr sy'n cefnogi cydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith ac felly'n ystyried atebion hyblyg i sicrhau bod gweithwyr yn gallu cyflawni hyn. Felly, yn unol ag anghenion y gwasanaeth, byddai deiliad y swydd yn gallu gweithio'n hyblyg.

Sylwer: darllenwch y proffil swydd yn ofalus a rhowch enghreifftiau ysgrifenedig yn eich datganiad ategol i ddweud wrthym beth rydych wedi'i wneud a pham eich bod yn meddu ar y sgiliau yr ydym yn chwilio amdanynt.

Bydd gwiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn ofynnol ar gyfer y swydd hon.

Bydd angen ichi fod â gwybodaeth sylfaenol am y Gymraeg. Gellir darparu cymorth rhesymol i gyrraedd y lefel hon ar ôl penodi.

Am sgwrs anffurfiol cysylltwch â Helen Davies ar 01554 742447 / 07791 418447 neu hjonesdavies@sirgar.gov.uk

Cliciwch ar y ddolen yn y blwch 'eitemau a lawrlwythwyd' i weld copi o'r Proffil Swydd.

Bydd angen i chi fewngofnodi i'ch cyfrif cyn clicio ar y botwm 'Gwneud Cais' am y swydd hon.

Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr: