MANYLION
  • Lleoliad: Pencoed,
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Technegydd Canolfan Ceffylau

Coleg Penybont
Technegydd Canolfan Ceffylau

Disgrifiad o'r swydd Technegydd Canolfan Ceffylau
Llawn Amser a Pharhaol
Graddfa gyflog 3: £21,740 - £23,266 y flwyddyn

Pwrpas y swydd: Cyflawni dyletswyddau cyffredinol yn yr iard a pharatoi offer ymarferol i’w defnyddio yn yr iard ac mewn darlithoedd. Byddwch yn cynorthwyo gyda dyletswyddau cyffredinol yn yr iard geffylau, gan gynnwys glanhau, bwydo a rhoi dŵr i’r ceffylau, cneifio a chlipio, a sgubo a glendid cyffredinol yr iard.

Bydd gennych brofiad a gwybodaeth ragorol o weithio mewn amgylchedd iard geffylau, yn ogystal â chymhwyster Lefel 3 mewn Rheoli Ceffylau a Chymhwyster Cam 2 Cymdeithas Ceffylau Prydain neu’n barod i ymgymryd ȃ chymhwyster hyn.

Am wybodaeth bellach, edrychwch ar y pecyn gwybodaeth swydd.

Mae Coleg Penybont yn cydnabod ei gyfrifoldeb dros sicrhau diogelwch a lles pob myfyriwr. Rydym yn defnyddio proses lem i wirio addasrwydd staff a gwirfoddolwyr i weithio â phlant ac oedolion bregus. Mae’r swydd uchod yn amodol ar ddatgeliad DBS Estynedig / boddhaol ar gyfer gweithlu plant ac oedolion a bydd rhaid i chi gofrestru fel Gweithiwr Cymorth Dysgu Addysg Bellach gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.

Mae Coleg Penybont yn deall gwerth darparu gwasanaethau yn Gymraeg a'r angen i dyfu ei weithlu dwyieithog. Rydym felly’n annog ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n gallu dangos sgiliau Cymraeg da. Nodwch yn eich datganiad personol a yw’n well gennych i’ch asesiad/cyfweliad gael ei gynnal yn Gymraeg.

Rydym wrthi'n ceisio gwella cynrychiolaeth o bob rhan o'r gymuned a hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb, gan gynnwys pobl o wahanol gefndiroedd a chymunedau, ac o wahanol oedrannau.

Rydym yn falch o fod yn Arweinydd Anabledd Hyderus ac rydym yn gwarantu cyfweld ag unrhyw un ag anabledd os yw eu cais yn cwrdd â'r meini prawf hanfodol ar gyfer y swydd, a'u hystyried ar eu galluoedd. Gallwn hefyd gynnig addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio.

Noder gall fod gofyniad am gyfweliad neu asesiad ail gam.