MANYLION
  • Lleoliad: Ty Penallta,
  • Testun:
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Math o gyflog: Annual
  • Salary Range: £25,000.00 - £30,000.00
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Swyddog Cymorth (Ysbrydoli)

Swyddog Cymorth (Ysbrydoli)

Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
Swyddog Cymorth (Ysbrydoli)
Disgrifiad swydd
Rydyn ni'n chwilio am unigolyn positif, gofalgar sy'n awyddus i gynorthwyo dysgwyr sy'n wynebu ystod o wahanol heriau mewn ysgolion uwchradd. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn frwdfrydig, amyneddgar ac yn meddu ar ddealltwriaeth dda o anhawsterau ymddygiad, emosiynol a chymdeithasol.

Fel Swyddog Cymorth o fewn y Tîm Ysbrydoli, byddwch chi'n gweithio'n anibynnol mewn ysgol. Byddwch chi'n rheoli eich amserlen eich hun i sicrhau bod y bobl ifanc ar y rhaglen yn cael y lefel o gymorth sydd ei angen arnyn nhw. Mae'r rôl yn cynnig cymorth personol, pwrpasol i bobl ifanc o fewn Cyfnod Allweddol 3 sydd wedi cael eu nodi fel y rhai sy'n wynebu'r risg fwyaf o beidio bod mewn Addysg, Gwaith na Hyfforddiant (NEET).

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn wydn, gydag ethig gwaith cryf, a'r gallu i feddwl yn greadigol. Byddwch chi'n gweithio fel rhan o'r tîm gwella ysgolion ehangach, gyda ffocws cryf ar wella presenoldeb, cyrhaeddiad, ac ymddygiad pobl ifanc o fewn cyd-destun ysgol.

Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Claire Howells ar 07871733336.

Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.

Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.