MANYLION
  • Lleoliad: Coleg Cambria,
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 01 Rhagfyr, 2023 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Gweinyddydd CC/2498

Coleg Cambria
Proffil Swydd
Disgrifiad Swydd a Manyleb Yr Unigolyn

Coleg Cambria: Cyflwyniad
Yng Ngholeg Cambria, ein nod yw bod yn sefydliad addysg eithriadol. A ninnau eisoes wedi cael dyfarniad ‘Rhagorol’ yn ein harolygiad diweddar gan Estyn ac wedi ennill Gwobr Aur Iechyd yn y Gweithle y Safon Iechyd Corfforaethol, rydym yn teimlo ein bod wedi cael dechrau da.

Rydym yn rhoi croeso cynnes i holl fyfyrwyr a staff i wneud Coleg Cambria yn lle rydych chi eisiau bod yn rhan ohono. Er mwyn sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael y profiad a’r canlyniadau gorau y gallant eu cael, rydym yn sicrhau fod y bobl rydym yn eu cyflogi yn hapus. Rydym yn meithrin amgylchedd gwaith cadarnhaol, gweithlu sy’n ehangu ac yn gwella’n gyson, ac yn cynnig y cyfle i chi herio’ch hun. Yn ogystal â hynny, mae gennym ystod eang o fudd-daliadau i sicrhau fod ein gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, gan gynnwys gwyliau blynyddol hael, pecyn pensiwn gwych, ac aelodaeth â disgownt i‘n campfeydd, ein salonau a’n bwytai hyfforddi proffesiynol.

Mae ein 5 safle, sydd wedi’u lleoli mewn ardal odidog yng Ngogledd Cymru, yn ehangu ac yn datblygu’n gyson. Gyda pherthnasoedd cryf gyda nifer o gwmnïau yn yr ardal, rydym yn helpu rhoi’r dechrau gorau i’n myfyrwyr i’w gyrfaoedd ac yn helpu’r economi leol i ffynnu. Mae gan Gymru ddiwylliant cadarn a balch, ac rydym yn parhau i ddatblygu’r gwerthoedd pwysig hynny trwy ymrwymo i hyrwyddo’r Gymraeg. Rydym yn falch iawn o’r hyn rydym wedi’i adeiladu yma ac rydym bellach yn chwilio am rywun i wella ein gweithlu sydd eisoes yn eithriadol.
Crynodeb o'r Swydd
Rhagori ar ddisgwyliadau drwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth...

Teitl y Swydd: Gweinyddydd

Lleoliad: Glannau Dyfrdwy

Math o Gontract: Parhaol, Llawn amser

Cyflog: £23,844- £24,717

Mae gennyn ni swydd wag ar gyfer gweinyddydd hunan-gymhellol i ymuno â'n tîm Cyllid a Phrosiectau ar ein safle Glannau Dyfrdwy. Yn y swydd hon mi fyddwch chi’n darparu cymorth gweinyddol i staff rheoli a chydag amcanion a gweithgarwch yr adran. Bydd gofyn i chi gyflawni ystod o ddyletswyddau gwaith swyddfa ac i gydweithio ag aelodau eraill y tîm i sicrhau bod y gwasanaeth cymorth gweinyddu yn cael ei gydlynu o fewn yr adran o ddydd i ddydd.

Gan weithio’n hyblyg fel aelod o dîm, byddwch chi’n trefnu ac yn gweinyddu trafodion ariannol ac yn cyfrannu at gynnal a chadw a datblygu systemau gweinyddu a gwybodaeth swyddfa briodol. Byddwch chi’n cynorthwyo cwsmeriaid mewnol ac allanol fel sy’n briodol ac yn cysylltu â staff y coleg a sefydliadau allanol ynglŷn â materion perthnasol i’r maes busnes.

Os oes gennych chi NVQ Lefel 2 / Diploma (neu gymhwyster cyfwerth) mewn Gweinyddu Busnes a phrofiad o weithio mewn amgylchedd swyddfa brysur, yna hoffem ni gael clywed gennych chi! Byddwch chi’n gallu gweithio’n dda fel aelod o dîm ehangach. Bydd gennych chi sgiliau cyfathrebu a rheoli amser ardderchog yn ogystal â gallu cynllunio a rheoli eich llwyth gwaith eich hun.

Byddwch chi’n rhagweithiol ac yn drefnus iawn. Bydd gennych chi sgiliau TGCh da, gan gynnwys MS Office, Windows a Google Suite, a byddwch chi’n cymryd cyfrifoldeb personol am gyflwyno gwaith o safon uchel.

Gofynion Hanfodol
  • NVQ Lefel 2 mewn Gweinyddu Busnes neu gymhwyster cyfwerth.
  • 4 TGAU neu gymwysterau cyfwerth (gan gynnwys Mathemateg a Saesneg) gradd D neu uwch.
  • Profiad profedig o ddefnyddio MS Office a Google.
  • Profiad diweddar o weinyddu mewn amgylchedd swyddfa brysur.
  • Gallu cyd-weithio ag aelodau eraill o’r tîm. Gallu gweithio heb oruchwyliaeth.
  • Gallu cyfathrebu ag eraill yn hyderus ac yn gadarnhaol, ar lafar ac yn ysgrifenedig.

Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon
Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i hyrwyddo proffil y Gymraeg.

Mae hyrwyddo’r Gymraeg yn rhan hanfodol o’n gwaith. Mae croeso i ymgeiswyr gyflwyno cais yn Gymraeg. Nid ydym yn trin cais a gyflwynwyd yn Gymraeg yn llai ffafriol na chais a chyflwynwyd yn Saesneg.

Bydd ffurflenni cais, deunydd esboniadol, gwybodaeth am y broses gyfweld a dulliau asesu a disgrifiadau swydd i gyd ar gael yn Gymraeg.

Mae Coleg Cambria yn gyflogwr ‘Hyderus o ran Anableddau’.

Mae hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn rhan hanfodol o’n gwaith, ac mae’r coleg wedi ymrwymo i gael grwp staff amrywiol fel rhan o hynny.

Mae diogelwch plant, pobl ifanc ac oedolion y nodwyd eu bod yn ‘agored i niwed’ yn hollbwysig ac mae Coleg Cambria wedi ymrwymo’n llwyr i ddiogelu a hyrwyddo lles yr unigolion hyn ac i weithredu gweithdrefnau a threfniadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn drwyadl. Byddwn yn gofyn am wiriad DBS gan yr ymgeisydd llwyddiannus a fydd yn cael cynnig y swydd. Byddai gofyn i chi hefyd gofrestru gyda’r Cyngor Gweithlu Addysg fel Athro Addysg Bellach.

Fel arfer mae swyddi'n cael eu hysbysebu gydag ystod cyflog. Os cewch gynnig swydd yn y coleg, bydd profiad perthnasol yn cael ei ystyried er mwyn pennu eich cyflog cychwynnol.

Sylwer fod Coleg Cambria yn cadw’r hawl i gau’r rhestr ymgeiswyr yn gynnar ar gyfer unrhyw swydd pe byddwn yn derbyn nifer fawr o geisiadau. Byddwn yn argymell eich bod yn cwblhau eich cais cyn gynted â phosibl os hoffech gael eich ystyried ar gyfer y swydd hon.
Buddion
Cynllun(iau) pensiwn ardderchog

Hawl gwyliau blynyddol hael

Darpariaeth feithrin ar ein safle yng Nglannau Dyfrdwy

Gostyngiadau ar ystod o gyrsiau gyda’r nos y coleg

Mynediad i ystod eang o gyrsiau e-ddysgu a datblygiad proffesiynol

Disgownt ar aelodaeth ystafell ffitrwydd

Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd ardderchog

Parcio am ddim ar bob safle

Cynllun Beicio

Cyfraddau gostyngol ar gyfer trin gwallt a thriniaethau harddwch

Cyfraddau gostyngol yn ein bwytai

Absenoldeb mamolaeth, mabwysiadu a thadolaeth estynedig