MANYLION
  • Lleoliad: Dolgellau,
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Darlithydd Peirianneg Trydanol/Electronig, Dolgellau

Grwp Llandrillo Menai
Mae Adran Adeiladwaith a Pheirianneg Coleg Meirion Dwyfor yn adran flaengar sy'n cynnig cyrsiau mewn ystod o ddisgyblaethau. Mae addysgu a dysgu yn digwydd gyda mynediad at offer safonol y diwydiant ac mewn cyfleusterau modern. O fewn yr adran, mae gennym ddau safle; Hafan (Pwllheli) a CaMDA (Dolgellau), sydd ill dau yn darparu cymwysterau Peirianneg.

Rydym yn chwilio am aelod o staff llawn amser i ymuno ag ochr Beirianneg yr adran; helpu i ddatblygu sgiliau trydanol dysgwyr. Ar hyn o bryd mae gennym ddarlithwyr peirianneg fecanyddol, peirianneg cynhyrchu, peiriannu a weldio rhagorol, a hoffem adeiladu ar hyn i gynnwys peirianneg drydanol/electronig, yn ogystal â roboteg a RhRHRH (PLCs). Bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno safonau uchel o addysgu a dysgu a rhoi cymorth, cyngor ac arweiniad parhaus i fyfyrwyr sy'n hyrwyddo llwyddiant.

Disgwyliadau allweddol y rôl:

1. Addysgu i safon uchel er mwyn creu cyfleoedd dysgu effeithiol ac er mwyn galluogi'r holl ddysgwyr i gyflawni hyd eithaf eu gallu.

2. Darparu profiadau allgyrsiol rhagorol i'n dysgwyr.

3. Cynnal safonau uchel y ddarpariaeth â'r gefnogaeth a roddir i'r dysgwyr.

4. Sichrau bod polisiau a gweithdrefnau'r Grŵp yn cael ei dilyn.

5. Cefnogi dysgwyr i lwyddo er mwyn cyflawni eu targedau neu uwch gan herio ac ymestyn ein dysgwyr.

Os ydych angen gwybodaeth bellach gellir cysylltu â :- 01341 422 827 ext 8301

Manylion Swydd
Cyfeirnod y Swydd
CMD/114/23

Cyflog
£29,161.56 - £45,077.12 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad

Lleoliad Gwaith
  • Dolgellau

Hawl gwyliau
46 diwrnod y flwyddyn, yn ogystal â Gwyliau'r Banc a diwrnodau effeithlonrwydd

Patrwm gweithio
37 awr yr wythnos, Dydd Llun i Ddydd Gwener

Hawliau Pensiwn
Cynllun Pensiwn Athrawon

Math o gytundeb
Llawn Amser Parhaol

Dyddiad cau
24 Tach 2023
12:00 YH(Ganol dydd)