MANYLION
  • Lleoliad: Pencoed,
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Fesul awr
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Technegydd Adeiladwaith Achlysurol

Coleg Penybont
Technegydd Adeiladwaith Achlysurol

Disgrifiad o'r swydd Technegydd Adeiladwaith Achlysurol
Graddfa gyflog 3: £11.27 - £12.06 yr awr
Noder, contract a delir yn ôl yr awr yw hon, sy’n golygu na ellir gwarantu dyddiau ac oriau penodol - fe’u cynigir ar sail achlysurol, ad hoc, i fodloni anghenion y gwasanaeth, felly gallant amrywio.

Pwrpas y swydd: Cefnogi’r tîm darparu, paratoi deunyddiau ac adnoddau dysgu, a chynnal a chadw gweithdai, offer ac adnoddau er mwyn cynorthwyo gyda darpariaeth hyfforddiant effeithlon ac effeithiol.

Byddwch yn cynnal a chadw’r holl systemau, offer, taclau, offerynnau a chymhorthion dysgu i sicrhau bod rhaglenni dysgu’n gweithredu’n effeithlon. Bydd hyn hefyd yn cynnwys paratoi a chynnal gweithdai ac ystafelloedd dosbarth ar gyfer amryw o waith dosbarth, arddangosiadau, gwaith arbrofol a sesiynau ymarferol ar gyfer amryw o gyrsiau.

Bydd gan yr ymgeisydd delfrydol gymhwyster Lefel 3 o leiaf ac yn meddu ar gymwysterau perthnasol yn y grefft. Byddwch yn hefyd yn meddu ar sgiliau adeiladu cyffredinol da. Yn ogystal â sgiliau rhyngbersonol rhagorol a’r gallu i ddatblygu perthynas â myfyrwyr o gefndiroedd amrywiol, fe fyddwch yn angerddol am ysgogi pob dysgwr.

Am wybodaeth bellach, edrychwch ar y pecyn gwybodaeth swydd .

Mae Coleg Penybont yn cydnabod ei gyfrifoldeb dros sicrhau diogelwch a lles pob myfyriwr. Rydym yn defnyddio proses lem i wirio addasrwydd staff a gwirfoddolwyr i weithio â phlant ac oedolion bregus. Mae’r swydd uchod yn amodol ar ddatgeliad DBS Estynedig / boddhaol ar gyfer gweithlu plant ac oedolion a bydd rhaid i chi gofrestru fel Gweithiwr Cymorth Dysgu Addysg Bellach gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.

Mae Coleg Penybont yn deall gwerth darparu gwasanaethau yn Gymraeg a'r angen i dyfu ei weithlu dwyieithog. Rydym felly’n annog ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n gallu dangos sgiliau Cymraeg da. Nodwch yn eich datganiad personol a yw’n well gennych i’ch asesiad/cyfweliad gael ei gynnal yn Gymraeg.

Rydym wrthi'n ceisio gwella cynrychiolaeth o bob rhan o'r gymuned a hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb, gan gynnwys pobl o wahanol gefndiroedd a chymunedau, ac o wahanol oedrannau.

Rydym yn falch o fod yn Arweinydd Anabledd Hyderus ac rydym yn gwarantu cyfweld ag unrhyw un ag anabledd os yw eu cais yn cwrdd â'r meini prawf hanfodol ar gyfer y swydd, a'u hystyried ar eu galluoedd. Gallwn hefyd gynnig addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio.

Noder gall fod gofyniad am gyfweliad neu asesiad ail gam.