MANYLION
  • Math o gyflog: Fesul awr
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Cynorthwywyr Cefnogi Dysgwyr

Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales
Cynorthwywyr Cefnogi Dysgwyr

Graddfa Gyflog £12.91 yr awr (yn cynnwys tâl gwyliau)

Yn ogystal â phecyn buddion a gwyliau hael

Mae gan Adult Learning Wales |Addysg Oedolion Cymru gyfle gwych i Cynorthwywyr Cefnogi Dysgwyr cymwysedig a medrus iawn I gefnogi ein dysgwyr sy'n oedolion, yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr. Gweithio mewn partneriaeth gyda'r tiwtoriaid i gefnogi a chynorthwyo unrhyw ddysgwr sydd gydag anghenion dysgu ychwanegol penodol yn unol ag anghenion y dysgwyr a pholisïau a gweithdrefnau Addysg Oedolion Cymru.

Mae rôl Cynorthwywyr Cefnogi Dysgwyr yn rôl amrywiol, ymarferol lle byddwch yn gweithio'n annibynnol yn ogystal â gyda thîm y rhanbarth.

Byddwch yn gyfrifol am (ond nid yn gyflawn):
  • Cefnogi a chynorthwyo dysgwyr yn unol ag anghenion y dysgwyr ac polisïau a gweithdrefnau Addysg Oedolion Cymru
  • Sefydlu perthnasoedd gwaith adeiladol ac effeithiol gyda dysgwyr a rhyngweithio â nhw yn unol â'u hanghenion unigol, a helpu i feithrin eu hyder a gwella hunan-barch
  • Cefnogi dysgwyr mewn gweithgareddau ymarferol amrywiol yn unol â meini prawf asesu pwnc y cwrs

Os oes gennych y sgiliau cywir, ac eisiau gweithio mewn maes hynod werth chweil lle mae eich gweithredoedd yn gwneud gwahaniaeth i bobl ledled Cymru, yna byddem wrth ein bodd yn derbyn eich cais.

Os hoffech sgwrs anffurfiol neu i glywed mwy am y rôl cysylltwch â Jayne Ireland, Rheolwr Rhanbarth De Ddwyrain Cymru ar Jayne.Ireland@adultlearning.wales

Ymgeisiwch erbyn 9.00yb Dydd Gwener 24 ain Tachwedd 2023 gan ddefnyddio'r ffurflen gais nodwch nad ydym yn derbyn CV. Ceir rhagor o fanylion am y rôl ynghyd â manyleb swydd a person yn y pecyn cais.

Mae Addysg Oedolion Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a thyfu ei weithlu dwyieithog ac amrywiol. Gellir cyflwyno ceisiadau am unrhyw swydd yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.

Mae safbwyntiau a phrofiadau amrywiol yn hanfodol i'n llwyddiant, ac rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o unrhyw gefndir sydd â'r profiad a'r sgiliau sydd eu hangen i gyflawni'r rôl hon.