MANYLION
  • Lleoliad: Cardiff, Cardiff, CF10 5NB
  • Testun: Gweithiwr Cymorth Dysgu
  • Oriau: Rhan amser
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Math o gyflog: Fesul awr
  • Iaith: Saesneg

This job application date has now expired.

Cynorthwywyr Cefnogi Dysgwyr

Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales
Cynorthwywyr Cefnogi Dysgwyr

Raddfa tâl: £12.91 yr awr (yn cynnwys tâl gwyliau)

Yn ogystal â a phecyn buddion hael

Mae gan Adult Learning Wales |Addysg Oedolion Cymru gyfle gwych i Cynorthwywyr Cefnogi Dysgwyr cymwysedig a medrus iawn I gefnogi ein dysgwyr sy'n oedolion, yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr. Gweithio mewn partneriaeth gyda’r tiwtoriaid i gefnogi a chynorthwyo unrhyw ddysgwr sydd gydag anghenion dysgu ychwanegol penodol yn unol ag anghenion y dysgwyr a pholisïau a gweithdrefnau Addysg Oedolion Cymru.

Mae rôl Cynorthwywyr Cefnogi Dysgwyr yn rôl amrywiol, ymarferol lle byddwch yn gweithio’n annibynnol yn ogystal â gyda thîm y rhanbarth.

Byddwch yn gyfrifol am (ond nid yn gyflawn):

- Cefnogi a chynorthwyo dysgwyr yn unol ag anghenion y dysgwyr ac polisïau a gweithdrefnau Addysg Oedolion Cymru
- Sefydlu perthnasoedd gwaith adeiladol ac effeithiol gyda dysgwyr a rhyngweithio â nhw yn unol â'u hanghenion unigol, a helpu i feithrin eu hyder a gwella hunan-barch
- Cefnogi dysgwyr mewn gweithgareddau ymarferol amrywiol yn unol â meini prawf asesu pwnc y cwrs

Os oes gennych y sgiliau cywir, ac eisiau gweithio mewn maes hynod werth chweil lle mae eich gweithredoedd yn gwneud gwahaniaeth i bobl ledled Cymru, yna byddem wrth ein bodd yn derbyn eich cais.

Ymgeisiwch erbyn 9.00yb Dydd Gwener 24ain Tachwedd 2023 gan ddefnyddio'r ffurflen gais nodwch nad ydym yn derbyn CV.

Ceir rhagor o fanylion am y rôl ynghyd â manyleb swydd a person yn y pecyn cais.

Mae Addysg Oedolion Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a thyfu ei weithlu dwyieithog ac amrywiol. Gellir cyflwyno ceisiadau am unrhyw swydd yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.

Mae safbwyntiau a phrofiadau amrywiol yn hanfodol i’n llwyddiant, ac rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o unrhyw gefndir sydd â’r profiad a’r sgiliau sydd eu hangen i gyflawni’r rôl hon.