MANYLION
  • Lleoliad: Cardiff, Cardiff, CF10 5NB
  • Testun: Tiwtor Oedolion
  • Oriau: Rhan amser
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Math o gyflog: Fesul awr
  • Iaith: Saesneg

This job application date has now expired.

Tiwtoriaid

Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales
Tiwtoriaid

Pynciau: Cymorth Cyntaf Brys yn y Gwaith; Cymorth Cyntaf Pediatrig; Cynorthwy-ydd Addysgu; Ymwybyddiaeth o Awtistiaeth; Ymwybyddiaeth Dyslecsia; Datblygiad Personol; Rheoli Pryder; Cyflogadwyedd; Rhifedd; Mathemateg

Ardaloedd: Caerdydd, Rhondda Cynon Taf, Bro Morganwg, Casnewydd, Blaenau Gwent,Pen y-Bont ar Ogwr, Caerffili, Sir Fynwy, Merthyr Tydfil, Torfaen

Cyflog: Tâl fesul awr - £27.78 yr awr (yn cynnwys tâl gwyliau)

Oriau amrywiol

Cytndeb Cyfnod Penodol hyd at Gorffennaf 2024

Mae gan Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales gyfleoedd gwych i diwtoriaid cymwysedig a medrus ddarparu cyrsiau yn y pynciau uchod, i ddysgwyr yn ardaloedd De-ddwyrain Cymru. Byddwch yn cynllunio, datblygu, cyflwyno, gwerthuso ac asesu cyrsiau a rhaglenni dysgu yn unol ag anghenion dysgwyr ac Gweithdrefnau Ansawdd Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales, i gefnogi cyflwyno dysgu o ansawdd uchel.

Mae rôl Tiwtor yn rôl amrywiol, ymarferol lle byddwch yn gweithio’n annibynnol yn ogystal â gyda thîm y rhanbarth.

Byddwch yn gyfrifol am (ond nid yn gyflawn):

- Cynllunio a pharatoi cyrsiau – paratoi cynlluniau gwersi a chynlluniau gwaith. Dewis deunyddiau dysgu ac ystod o ddulliau dysgu i ddiwallu anghenion y dysgwr.
- Cefnogi dysgwyr – Asesu profiadau dysgu blaenorol a chyflawniadau dysgwyr, rhoi cyngor ac arweiniad priodol iddynt, a sicrhau bod dysgwyr yn ymwybodol o’u llwybrau dilyniant.
- Cyffredinol – ymgymryd â thasgau gweinyddol yn unol â rheoliadau ar gyfer cyllido Addysg Oedolion Cymru I Adult Learning Wales. Mynychu cyfarfodydd tiwtor perthnasol, briffiau ansawdd a chyfarfodydd achredu / safoni perthnasol.

Os oes gennych y sgiliau cywir, ac eisiau gweithio mewn maes hynod werth chweil lle mae eich gweithredoedd yn gwneud gwahaniaeth i bobl ledled Cymru, yna byddem wrth ein bodd yn derbyn eich cais.

Ymgeisiwch erbyn 9.00yb Dydd Gwener 24ain Tachwedd 2023 gan ddefnyddio'r ffurflen gais nodwch nad ydym yn derbyn CV. Ceir rhagor o fanylion am y rôl ynghyd â manyleb swydd a person yn y pecyn cais.

Mae Addysg Oedolion Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a thyfu ei weithlu dwyieithog ac amrywiol. Gellir cyflwyno ceisiadau am unrhyw swydd yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.

Mae safbwyntiau a phrofiadau amrywiol yn hanfodol i’n llwyddiant, ac rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o unrhyw gefndir sydd â’r profiad a’r sgiliau sydd eu hangen i gyflawni’r rôl hon.