MANYLION
  • Lleoliad: Tonypandy, Rhondda Cynon Taf, CF40 1NY
  • Testun: Cynorthwyydd Cymorth Dysgu Ychwanegol
  • Oriau: Rhan amser
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Iaith: Saesneg

This job application date has now expired.

Rydyn ni'n chwilio am Gynorthwy-ydd Cynnal Dysgu ar gyfer dosbarth cynnal dysgu Cyfnod Allweddol 3 a 4 (acey) yn Ysgol Nant-gwyn

Rhondda Cynon Taf
ADDYSG A GWASANAETHAU CYNHWYSIANT RHONDDA CYNON TAF

Rydyn ni'n chwilio am Gynorthwy-ydd Cynnal Dysgu ar gyfer dosbarth cynnal dysgu Cyfnod Allweddol 3 a 4 (anawsterau cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol) yn Ysgol Nant-gwyn.

Cyflog: Gradd 6 - £24,0546 x 77.15% ynghyd â Lwfans Dosbarth Arbennig (£1,401 x 77.15%)

32.5 awr yr Wythnos - tymor yr ysgol yn unig

Hoffai Gwasanaeth Mynediad a Chynhwysiant Rhondda Cynon Taf benodi cynorthwy-ydd cynnal dysgu, i ddechrau ym mis Ionawr 2024. Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus y cymwysterau a'r profiad priodol i roi cymorth i ddisgyblion ag anawsterau cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol mewn dosbarth cynnal dysgu yn Ysgol Nant-gwyn. Bydd y dosbarth yma ar gyfer hyd at ddeuddeg o ddisgyblion rhwng 11 a 16 oed sydd ag ystod o anghenion dysgu ychwanegol. Yn gyfrifol am y dosbarth mae un athro a dau gynorthwy-ydd cynnal dysgu.

Yn ddelfrydol, bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus brofiad o weithio gyda disgyblion ag anawsterau cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol a bydd wedi ymgymryd â datblygiad proffesiynol arbenigol sy'n berthnasol i ddisgyblion ag anawsterau cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol.

Mae modd cael ffurflenni cais, a rhagor o fanylion, gan gynnwys disgrifiad swydd a manyleb y person ar gyfer y rôl drwy Wefan Recriwtio Ysgolion gan ddefnyddio’r ddolen. https://ce0576li.webitrent.com/ce0576li_webrecruitment/wrd/run/ETREC105GF.open?WVID=2482495vvA&LANG=CYM

Sylwch, i wneud cais am y swydd yma mae'n ofynnol i chi lenwi'r ffurflen gais ar-lein ar Wefan Recriwtio Ysgolion

Os dydych chi ddim yn llenwi'r ffurflen gais ar-lein byddwn ni'n ystyried eich bod chi ddim wedi gwneud cais am y swydd.

Mae gennyn ni wefan recriwtio newydd a bydd angen i chi greu cyfrif newydd i wneud cais am y swydd yma.

Am ragor o wybodaeth, ffoniwch Michael Condon yn Nhŷ Trevithick, Abercynon, Aberpennar, CF45 4UQ, ar 01443 744333.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw canol dydd (12pm) ar Dydd Gwener, Tachwedd 24fed, 2023

MAE DIOGELU PLANT AC OEDOLION AGORED I NIWED YN GYFRIFOLDEB CRAIDD YR YSGOL A'R CYNGOR. YN OGYSTAL Â'R CYFRIFOLDEB YMA MEWN PERTHYNAS Â DIOGELU, BYDD Y GWASANAETH DATGELU A GWAHARDD HEFYD YN YMCHWILIO'N FANWL I GEFNDIR YR YMGEISYDD LLWYDDIANNUS.

Mae'r Cyngor a'r Ysgol yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaethau anneuaidd, crefydd neu gred, neu feichiogrwydd a mamolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTQ+.

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.