MANYLION
  • Lleoliad: Vale of Glamorgan, Vale of Glamorgan, CF63 4RU
  • Testun: Athro
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £27,018 - £37,320
  • Iaith: Saesneg
  • Dyddiad Cau: 07 Rhagfyr, 2021 10:59 y.p

This job application date has now expired.

Cydlynydd ADY - Pencoedtre High School

Cydlynydd ADY - Pencoedtre High School

Cyngor Bro Morgannwg
Mae'n gyfnod cyffrous i ymuno ag Ysgol Uwchradd Pencoedtre wrth i ni drosglwyddo i Ysgol yr 21ain Ganrif newydd, o'r radd flaenaf, gwerth £35 miliwn yn Ionawr 2022. Rydym yn parhau, fel ysgol, i wneud newidiadau arloesol i barhau â'n hymgyrch i wella’r ysgol a rhoi’r cyfleoedd gorau i blant a phobl ifanc ein hysgol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno â thîm brwdfrydig, ymroddedig a chefnogol sy'n canolbwyntio ar atebion.

Cyfeirnod y swydd (i'w ddefnyddio ar y ffurflen gais): ALNCo
Manylion am gyflog: Prif raddfa gyflog ynghyd â lwfans
Diwrnodau / Oriau Gwaith: llawn amser
Parhaol/Dros Dro: Parhaol

Disgrifiad:

Hoffech chi weithio mewn ysgol flaengar ddeinamig? Hoffech chi chwarae rhan annatod wrth ddatblygu strwythurau a strategaethau, er mwyn sicrhau bod gan bob disgybl y gallu i gyflawni ei lawn botensial mewn amgylchedd cynhwysol? Hoffech chi weithio mewn ysgol, sy'n rhoi lles staff a disgyblion ar frig ei hagenda? Os mai ‘hoffwn’ yw eich ateb i'r uchod, yna dewch i weithio yn Ysgol Uwchradd Pencoedtre!

Rydym am benodi ymarferydd ysbrydoledig i chwarae rhan flaenllaw yn natblygiad strategol darpariaeth ADY yn Ysgol Uwchradd Pencoedtre. Mae hwn yn gyfle gwych i weithiwr proffesiynol ymroddedig sy’n frwdfrydig ynghylch sicrhau bod anghenion yr holl unigolion yn cael eu diwallu mewn amgylchedd gofalgar.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio'n agos iawn gyda'r adran les, i gefnogi disgyblion mewn modd cyfannol, ar eu taith ddysgu drwy gydol addysg uwchradd.

Swydd i ddechrau cyn gynted ag y bo modd
Cyfweliadau yr wythnos yn dechrau 13 Rhagfyr 2021