MANYLION
  • Lleoliad: Vale of Glamorgan, Vale of Glamorgan, CF63 4RU
  • Testun: Athro
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £27,018 - £37,320
  • Iaith: Saesneg
  • Dyddiad Cau: 01 Rhagfyr, 2021 10:59 y.p

This job application date has now expired.

Athro - Rhws Primary School

Athro - Rhws Primary School

Cyngor Bro Morgannwg
Amdanom ni
Mae ein hysgol yn Ysgol Gynradd gymunedol gyda Meithrinfa ynghlwm. Mae gennym Gorff Llywodraethu cryf a chefnogol, sy'n cynnwys cynrychiolwyr o Gyngor Bro Morgannwg, rhieni, y gymuned leol a staff.

Rydym yn gosod safonau uchel iawn ar draws yr ysgol ac yn cynnig ystod eang o brofiadau i'n disgyblion.

Rydym yn ysgol sydd wrth wraidd cymuned y Rhws ac rydym yn ymfalchïo yn ein perthynas â rhieni ac aelodau o'r gymuned ehangach.
Rydym yn gwerthfawrogi ein holl ddisgyblion a chredwn y dylai eu hamser yn yr ysgol fod yn gynhwysol, yn werth chweil ac yn foddhaus. Rydym yn annog disgyblion i leisio’u barn ac yn gwerthfawrogi eu barn.

Mae gan ein hysgol ethos cynnes, cyfeillgar a chroesawgar iawn lle rydym yn sicrhau bod pob disgybl yn teimlo ei fod yn derbyn gofal ac wedi'i ddiogelu ac mae ei les yn flaenllaw ym mhopeth a wnawn.


Am y Rôl
Cyfeirnod y swydd (i'w ddefnyddio ar y ffurflen gais): RPS-TEACH
Manylion am gyflog: Prif raddfa
Diwrnodau / Oriau Gwaith: Llawn amser
Parhaol/Dros Dro: Cyflenwi dros gyfnod Mamolaeth tan 31 Awst 22
Prif Weithle: Ysgol Gynradd Rhws – Dosbarth Blwyddyn 1

Disgrifiad:
Athro dosbarth llawn amser ar gyfer ein disgyblion Blwyddyn 1 gyda chyfrifoldeb i gynllunio eu haddysgu a sicrhau dilyniant drwy nodi amcanion addysgu clir, gosod tasgau sy'n herio drwy ddisgwyliadau priodol, gan gynnal lefel uchel o ddiddordeb tra'n diwallu anghenion pob disgybl. Mae’r rôl yn cynnwys rheoli cynorthwywyr cymorth dysgu ac oedolion eraill yn yr ystafell ddosbarth. Byddai disgwyl i'r athro dosbarth werthuso ei addysgu ei hun a chymryd cyfrifoldeb am eu darllen a'u dysgu proffesiynol eu hunain. Byddai'r rôl yn cynnwys cynllunio prosiectau cwricwlwm perthnasol a diddorol, marcio a monitro gwaith disgyblion, gosod targedau ar gyfer cynnydd, cwblhau cofnodion cynnydd disgyblion a chyflwyno adroddiadau addysgiadol i rieni.

Bydd y ceisiadau'n cau ar Rhagfyr 1af
Caiff y rhestr fer ei phenderfynu ar 6ed Rhagfyr
Bydd cyfweliadau ar 13eg a 14eg Rhagfyr