MANYLION
  • Lleoliad: Abertawe | Swansea , Swansea, SA1 1NW
  • Testun: Gweinyddwr
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Dyddiad Dechrau: 10 January, 2022
  • Dyddiad Gorffen: 31 December, 2022
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £19,743 - £23,489
  • Iaith: Saesneg
  • Dyddiad Cau: 07 Ionawr, 2022 9:00 y.b

This job application date has now expired.

Gweinyddwr Cymorth Rhanbarthol

Gweinyddwr Cymorth Rhanbarthol

Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales
Mae gennym gyfle cyffrous ar gyfer Gweinyddwr medrus iawn i ymuno â sefydliad ledled Cymru sydd wedi ymrwymo i wasanaethu poblogaeth oedolion Cymru gyda chyfleoedd ysbrydoledig sy'n newid bywyd. Mae Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales yn fudiad democrataidd, annibynnol a gwirfoddol, sydd wedi ymrwymo i ehangu cyfranogiad, hyrwyddo dinasyddiaeth weithredol a datblygu sgiliau a darparu dysgu o'r ansawdd gorau, gan weithio ar y cyd gyda'i bartneriaid.

Rydym yn edrych am Weinyddwr medrus iawn i fod yn rhan o Dîm y De ‘Orllewin a’r Canolbarth

Mae hon yn rôl ymarferol, yn gweithredu ar gyflymder, bydd yn rhoi cefnogaeth ac yn sail i waith y tîm cyflawni drwy ddarparu amrywiaeth o ddyletswyddau gweinyddol, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) cofrestru cyrsiau ar y systemau gwybodaeth rheoli (SRhG), prosesu hawliadau tâl tiwtoriaid, a logio pob manylion y dysgwr a’u gofynion cymorth. Byddwch yn allweddol wrth gynorthwyo'r Rheolwr Rhanbarthol, Swyddogion Cyflenwi Cwricwlwm a Thiwtoriaid i sicrhau bod yr holl weithgareddau gweinyddol yn cael eu cwblhau o fewn y dyddiadau cau gofynnol ac wrth sicrhau gweinyddiaeth gywir a chadw cofnodion mewn perthynas â'r holl dargedau darpariaeth, cyllid ac ansawdd y cytunwyd arnynt.
JOB REQUIREMENTS
Bydd gennych safon dda o addysg gyffredinol gan gynnwys Lefel TGAU / O Saesneg a Mathemateg neu gyfwerth, gyda chymhwyster TG perthnasol ar lefel 2 neu'n uwch yn fantais. Bydd gennych brofiad o'r holl ddyletswyddau gweinyddu swyddfa ac o godi archebion prynu a cheisiadau anfoneb, bancio, derbynebau arian a dderbyniwyd, a sgiliau TG cyffredinol da sy'n cwmpasu'r defnydd o'r holl gymwysiadau meddalwedd swyddfa sylfaenol. Byddwch yn drefnus, ac yn dod â sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol. Mae sgiliau Cymraeg ar lefel 3 yn ddymunol.

Mae Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth ac i greu amgylchedd gwaith cynhwysol. Credwn fod cael gweithlu amrywiol ar bob lefel yn caniatáu i ni gynrychioli'r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu.
Mae persbectif a phrofiadau amrywiol yn hanfodol i'n llwyddiant ac rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir sydd gyda’r profiad a'r sgiliau anghenrheidiol i gyflawni'r rôl hon.