MANYLION
  • Lleoliad: Abertawe | Swansea , Swansea, SA1 1NW
  • Testun: Rheolwr Ardal Cwricwlwm
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Dyddiad Dechrau: 10 January, 2022
  • Dyddiad Gorffen: 31 December, 2022
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £24,665 - £30,790
  • Iaith: Saesneg
  • Dyddiad Cau: 07 Ionawr, 2022 9:00 y.b

This job application date has now expired.

CYDLYNYDD DATBLYGU CWRICWLWM

CYDLYNYDD DATBLYGU CWRICWLWM

Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales
Mae gennym gyfle gwych i Cydlynydd Datblygu Cwricwlwm profiadol ymuno â sefydliad ledled Cymru sydd wedi ymrwymo i wasanaethu poblogaeth oedolion Cymru gyda chyfleoedd ysbrydoledig sy'n newid bywyd. Mae Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales yn fudiad democrataidd, annibynnol a gwirfoddol, sydd wedi ymrwymo i ehangu cyfranogiad, hyrwyddo dinasyddiaeth weithredol a datblygu sgiliau a darparu dysgu o'r ansawdd gorau, gan weithio ar y cyd gyda'i bartneriaid.

Rydym yn chwilio am Cydlynydd Datblygu Cwricwlwm medrus iawn sydd yn gallu datblygu, cydlynu a gweithredu rhaglen gydlynol o ddarpariaeth addysg oedolion yn yr ardal Abertawe gan gynnwys pob agwedd ar gynllunio; cyllido; trefnu; dyrannu a datblygu adnoddau.

Mae hon yn rol ymarferol, yn gweithredu ar gyflymder, byddwch yn allweddol wrth gynorthwyo'r Rheolwr Rhanbarthol i sicrhau fod yr holl weithgareddau dysgu yn cwrdd â'r targedau darpariaeth, cyllid ac ansawdd y cytunwyd arnynt.

Pwrpas y rôl hon yw cynnal, cefnogi a datblygu ein cynnig cwricwlwm SSIE (ESOL) sylweddol ar draws y ddinas, yn ogystal â'n darpariaeth gymunedol cyffredinol.

JOB REQUIREMENTS
Byddwch yn gymwys i gymhwyster Addysgu Lefel 3 a Gwobr Aseswr Lefel 3 neu ragflaenydd, bydd gennych brofiad o addysg gymunedol, addysg oedolion neu ddatblygiad cymunedol, a gwybodaeth brofedig o hyrwyddo neu farchnata gweithgareddau mewn lleoliadau cymunedol. Bydd gennych brofiad o gynllunio a chydlynu cyfleoedd addysgu a dysgu cyfunol ar-lein.

Byddwch yn dod â sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol, ac yn mynd ati i recriwtio niferoedd hyfyw o ddysgwyr i'r ddarpariaeth trwy rwydweithio, cydweithredu a hyrwyddo a datblygu partneriaethau a chyfleoedd cydweithredu gydag ystod eang o gyrff allanol.

Byddwch yn brofiadol a chymwysedig mewn gweithredu gweithdrefnau ansawdd mewnol, bydd gennych sgiliau trefnu, cydlynu a gweinyddol rhagorol ac yn gallu gweithio'n annibynnol.

Mae Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth ac i greu amgylchedd gwaith cynhwysol. Credwn fod cael gweithlu amrywiol ar bob lefel yn caniatáu i ni gynrychioli'r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu.
Mae persbectif a phrofiadau amrywiol yn hanfodol i'n llwyddiant ac rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir sydd gyda’r profiad a'r sgiliau anghenrheidiol i gyflawni'r rôl hon.