MANYLION
  • Lleoliad: HAVERFORDWEST, Pembrokeshire, SA61 1SZ
  • Testun: Hyfforddwr Cyflogadwyedd
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Math o gyflog: Misol
  • Salary Range: £23,581.00 - £29,295.00
  • Iaith: Saesneg
  • Dyddiad Cau: 02 Rhagfyr, 2021 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Hyfforddwyr Cyflogadwyedd

Hyfforddwyr Cyflogadwyedd

Coleg Sir Benfro
Mae'r Tîm Cyflogadwyedd yng Ngholeg Sir Benfro yn darparu ystod o gefnogaeth i bobl ifanc ac oedolion di-waith yn Sir Benfro. Ar hyn o bryd mae amryw o gyfleoedd ar gael i Hyfforddwyr Cyflogadwyedd ymuno â'r tîm.
Hyfforddwyr Cyflogadwyedd (Amrywiol gyfleoedd ar gael)
Manylion Cyflog: £23,581- £25,534 BAR £26,366-£29,295 pro rata
Math o Gontract: Swyddi parhaol a chyfnodau penodol ar gael
Sylwer, bydd swyddi cyfnod penodol yn ymestyn i 31 Rhagfyr 2022 i ddechrau
Oriau Gwaith: Llawn-amser (37 awr yr wythnos)
Rhan-amser (oriau amrywiol hyd at 30 awr yr wythnos)
Bydd gofyn i ymgeiswyr nodi a oes ganddynt ddiddordeb mewn oriau llawn-amser neu ran-amser. Ar gyfer ymgeiswyr sydd â diddordeb mewn oriau rhan-amser yn unig, nodwch nifer yr oriau rydych chi ar gael ar eich ffurflen gais.
Cymwysterau: Byddwch wedi eich addysgu hyd at lefel 3 o leiaf ac yn ddelfrydol, bydd gennych gymhwyster perthnasol sy'n gysylltiedig â dysgu neu gyflwyno/hyfforddi fel AET (PTLLS gynt). Mae angen bod yn hyfedr iawn wrth ddefnyddio cymwysiadau Microsoft Office hefyd.
Profiad: Mae'n hanfodol bod â phrofiad o gyflwyno i grŵp o bobl. Byddai profiad blaenorol o ddysgu/hyfforddi yn hynod fanteisiol.
Manylion: Bydd y deiliaid swydd yn gallu cefnogi cyflwyno sesiynau 1:1 a grŵp mewn ystod o feysydd cysylltiedig â chyflogadwyedd gan gynnwys adeiladu tîm a gweithgareddau ymarferol. Mae agwedd hyblyg ac ymatebol sy'n canolbwyntio ar anghenion ystod eang o gwsmeriaid yn hanfodol i'r rôl, ynghyd ag agwedd gadarnhaol gyfeillgar. Bydd y rôl wedi'i lleoli yn Hwlffordd.