Coleg Sir Benfro

Pembrokeshire College
Further Education Institution
EIN CYFEIRIADAU:
  • Coleg Sir Benfro
  • HAVERFORDWEST
  • Pembrokeshire
  • SA61 1SZ
Amdanom Ni
Mae Coleg Sir Benfro yn Goleg Addysg Bellach sydd wedi hen ennill ei blwyf, ac mae'n un o'r gweithleoedd mwyaf yn y Sir gan gyflogi dros 500+ o staff cymwys ac ymroddedig iawn.

Rydym yn ymfalchïo mewn darparu addysg a hyfforddiant o'r radd flaenaf i dros 13,000 o ddysgwyr ar gampws bywiog mewn sir hardd.

Fel Coleg rydym wedi ymrwymo i ddatblygu 'diwylliant o ddyhead' ar gyfer ein dysgwyr, cyflogwyr a chwsmeriaid a bydd gweithio yng Ngholeg Sir Benfro yn golygu eich bod yn cael cefnogaeth dda ac yn gweithio fel rhan o gymuned staff.

Mae Cymuned ein Coleg yn un groesawgar, gofalgar, cadarnhaol, brwdfrydig, sy'n tanio uchelgais gyda chyfleoedd a chefnogaeth i alluogi pawb i gyflawni eu nodau personol a phroffesiynol.

Mae ein cyfleoedd gwaith amrywiol yn cynnig hyblygrwydd wrth ddatblygu gyrfa mewn meysydd sy'n amrywio o Addysgu, Hyfforddi a Rheoli i Adnoddau Dynol, Cyllid a TG.