MANYLION
  • Lleoliad: Various locations in the Borough,
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Gweithiwr Ymyrraeth Iaith Gynnar

Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
Gweithiwr Ymyrraeth Iaith Gynnar
Disgrifiad swydd
Mae Tîm y Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant Caerffili yn ehangu ledled y Fwrdeistref Sirol. Rydyn ni'n awyddus i recriwtio gweithiwr profiadol i gyflwyno ein hymyriadau iaith gynnar yn y cartref, yn y gymuned ac yn rhithwir.

Mae'r cymorth yn cynnwys ymyrraeth iaith bwrpasol drwy'r rhaglen Bod Yma, Bod yn Glir, Canllawiau Fideo Rhyngweithiol yn ogystal â'r rhaglenni Dewch i Siarad Gartref. Mae pob ymyrraeth ar gyfer plant 0-3 oed, gyda’r nod o gynorthwyo rhieni i helpu datblygu lleferydd, iaith a sgiliau cyfathrebu eu plentyn a chynorthwyo adnabod cynnar. Mae teuluoedd yn cael cymorth i gyflawni'r hyn sy'n bwysig iddyn nhw.

Mae’r swydd wedi’i lleoli yn y Ganolfan Integredig i Blant, Parc y Felin, ond bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus weithio'n ystwyth ledled y Fwrdeistref Sirol mewn cartrefi a lleoliadau cymunedol, yn ogystal â rhywfaint o weithio o gartref. Mae'r swydd hon yn rhan o Dîm y Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant ehangach ac mae gweithio mewn partneriaeth yn hanfodol.

Bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus ddysgu Cymraeg sgyrsiol sylfaenol a bydd ganddo brofiad o gyflwyno pecynnau cymorth iaith gynnar yn y cartref neu yn y gymuned ar sail un i un. Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus gymhwyster lefel 3 perthnasol a bydd wedi cwblhau Hanen: Learning Language and Loving it gyda’r wybodaeth ddiweddaraf am ddarparu iaith gynnar, hyfforddiant lleferydd, iaith a sgiliau cyfathrebu arall yn ogystal ag asesiadau datblygu iaith plant.

Mae'r swydd hon yn cael ei hariannu yn bennaf gan Dechrau'n Deg ac, oherwydd hyn, mae hi am gyfnod penodol oherwydd telerau ac amodau y grant tan Mawrth 31 2025.

Gweld y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person.

Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â (Insert contact name) ar (Insert contact number).

Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.

Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â webrecruitment@caerphilly.gov.uk am ragor o wybodaeth.

Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.