MANYLION
  • Lleoliad: SWANSEA, Swansea, SA2 9EB
  • Testun: Darlithydd
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Fesul awr
  • Salary Range: £14.61 - £26.73
  • Iaith: Dwyieithog

This job application date has now expired.

Darlithwyr Banc

Darlithwyr Banc

Coleg Gwyr Abertawe
Rydym yn chwilio am unigolion profiadaol, cymwysiedig ac ymroddedig i gyflwyno nifer o feysydd dysgu (yn unol â manylebau CBAC/Pearson).
Pwrpas y ‘banc’ fydd dal ceisiadau llwyddiannus er mwyn eu defnyddio ar sail ad-hoc.
Oriau Ad hoc

Nodwch pa feysydd yr hoffech gael eich ystyried ar eu cyfer ar ddechrau eich datganiad ategol.

Busnes a Rheoli

Economeg Lefel A.
Cyfrifiadura
Cyfrifeg (ACCA & AAT)
Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL)

Croesawir ceisiadau gan ddarlithwyr sydd newydd gymhwyso yn ogystal â darlithwyr profiadol i addysgu amrywiaeth o lefelau ar ein Campws Llwyn y Bryn yn yr Uplands. Bydd gennych radd berthnasol, tystysgrif CELTA (neu’r cyfwerth) ac yn ddelfrydol, mi fydd gennych gymhwyster TAW, neu barodrwydd i weithio tuag at ennill un. Gan fod ESOL yn faes twf parhaus i’r Coleg, mae posibilrwydd y byddwch yn gallu gweithio nifer sylweddol o oriau. Os ydych yn angerddol am addysgu pobl o amrywiaeth eang o gefndiroedd, gan gynnwys ceiswyr lloches a ffoaduriaid, gallai hon fod yn yrfa werth chweil.
Darlithydd Sgiliau Byw’n Annibynnol

Gan gyflenwi ar amrywiaeth o gyrsiau o gyn-mynediad i E3, ar draws ystod o raglenni sgiliau Cymdeithasol, Bywyd a Gwaith, bydd gennych ddealltwriaeth eang a gwybodaeth benodol o’r cwricwlwm a datblygiadau diweddar o fewn y sector.
Peirianneg

Mathemateg Peirianneg / Mathemateg i Beirianwyr
Darlithydd Cerbydau Modur
Darlithydd Peirianneg
Darlithydd Weldio

JOB REQUIREMENTS
Bydd gan yr ymgeiswyr llwyddiannus radd berthnasol, gwybodaeth drylwyr o’u maes pwnc arbenigol ac, yn ddelfrydol, cymhwyster addysgu cydnabyddedig. Os na fydd ganddynt gymhwyster addysgu, rhaid iddynt fod yn barod i weithio tuag at ennill un.

Bydd yr ygmeiswyr llwyddiannus yn datblygu ac yn cyflwyno nifer eang o strategaethau addysgu, gan gynnwys TGCh, er mwyn sicrhau ardderchogrwydd o ran dysgu ac adysgu, ac i gyflawni targedau at ddibenion cadw a chyrrhaeddiad.

Fel cyfathrebwr hyderus, brwdfrydig sydd yn meddu ar ymagwedd arloesol, byddwch yn medru ysgogi ac ysbrydoli myfyrwyr, i greu amgyclhedd ddysgu cadarnhaol sy’n arwain at brofiad anhygoel i ddysgwyr. Bydd gennych sgiliau trefnu a datrys problemau gwych, a byddwch yn mabwysiadu dull hyblyg o ran gweithio patrymau yn ystod y dydd a gyda’r nos.
Mae Coleg Gwyr Abertawe yn croesawu ceisiadau gan siaradyr Cymraeg.