MANYLION
  • Lleoliad: Abertawe | Swansea , Swansea, SA1 1NW
  • Testun: Tiwtor Oedolion
  • Oriau: Rhan amser
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Dyddiad Dechrau: 08 November, 2021
  • Dyddiad Gorffen: 31 July, 2022
  • Math o gyflog: Fesul awr
  • Salary Range: £25.40 - £25.40
  • Iaith: Saesneg

This job application date has now expired.

Tiwtor SSIE

Tiwtor SSIE

Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales
Mae gennym gyfle gwych ar gyfer tiwtoriaid SSIE cymwysedig i ymuno â sefydliad ledled Cymru sydd wedi ymrwymo i wasanaethu poblogaeth oedolion Cymru gyda chyfleoedd ysbrydoledig sy'n newid bywyd. Mae Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales yn fudiad democrataidd, annibynnol a gwirfoddol, sydd wedi ymrwymo i ehangu cyfranogiad, hyrwyddo dinasyddiaeth weithredol a datblygu sgiliau a darparu dysgu o'r ansawdd gorau, gan weithio ar y cyd gyda'i bartneriaid.

Rydym yn chwilio am diwtoriaid SSIE cymwys, medrus iawn i gyflwyno SSIE i ddysgwyr yn Abertawe. Byddai'r gallu i gyflenwi'n ddwyieithog yn fantais, ond nid yw'n hanfodol.

Byddwch yn cynllunio, datblygu, cyflwyno, gwerthuso ac asesu rhaglenni dysgu ym maes SSIE, yn unol ag anghenion dysgwyr a gweithdrefnau ansawdd Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales. Byddwch yn cyflwyno dysgu SSIE o ansawdd uchel gan ddefnyddio ystod o ddulliau addysgu ac yn defnyddio ystod o ddulliau asesu priodol yn unol ag anghenion y dysgwyr a gofynion y corff dyfarnu. Byddwch yn sicrhau bod y dysgwyr yn cael adborth clir ac adeiladol o fewn amserlenni priodol.
JOB REQUIREMENTS
Mae isafswm cymhwyster addysgu Lefel 3 a Ymarferwyr ESOL Lefel 3 neu gymhwyster CELTA yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Bydd gennych brofiad o addysg gymunedol, addysg oedolion, darpariaeth SSIE, a chymryd rhan mewn gweithdrefnau ansawdd mewnol. Byddai gwybodaeth am dechnolegau dysgu digidol, cymhwyster addysgu Lefel 5, a cymwysterau mewn Arweiniad Addysg Oedolion ac Ansawdd Mewnol yn ddymunol.