MANYLION
  • Lleoliad: Blackwood,
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 12 Hydref, 2023 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Gweithiwr Allweddol

Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
Gweithiwr Allweddol
Disgrifiad swydd
Mae cyfle wedi codi yng Ngwasanaeth Troseddau Ieuenctid Blaenau Gwent a Chaerffili i Weithiwr Allweddol profiadol sydd â'r cymwysterau priodol. Bydd y swydd yn Nhîm 1 y Llys a'r Gymuned i ddechrau, ond gall gael ei symud ar draws y tri thîm yn ôl yr angen. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus wedi’i leoli yn ein swyddfeydd ym Mharc Busnes Maes-y-coed, Pontllan-fraith. Bydd deiliad y swydd yn gweithio ledled y ddwy Fwrdeistref Sirol a bydd angen iddo fod yn berchennog/gyrrwr car.

Prif dasg y swydd yw rheoli llwyth achosion a darparu ymyriadau i fynd i'r afael ag anghenion plant rhwng 8 a 17 oed sy'n cyflawni ymddygiad gwrthgymdeithasol/troseddu. Mae'r gallu i gwblhau asesiadau o ffactorau risg sy'n gysylltiedig â throseddu, a datblygu cynlluniau cymorth unigol pwrpasol o fewn amserlenni penodol, yn hanfodol. Y nod cyffredinol yw atal troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Bydd deiliad y swydd hefyd yn gyfrifol am gynorthwyo cyflawni gwaith gwneud iawn neu waith heb dâl yn ôl yr angen ochr yn ochr â deiliad dynodedig y swydd. Mae hyn yn cynnwys cwblhau asesiadau risg iechyd a diogelwch yn ogystal â chwblhau tasgau ymarferol i atgyweirio niwed i ddioddefwyr a/neu gymunedau.

Bydd deiliad y swydd hefyd yn chwarae rhan hanfodol wrth gynorthwyo cydlynu a chyflawni unrhyw ymyriadau Dwys, Goruchwyliaeth a Gwyliadwriaeth.

Rydyn ni'n chwilio am unigolyn brwdfrydig a llawn cymhelliant ar gyfer y swydd hon, er mwyn cynorthwyo nod cyffredinol y Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid o leihau troseddu gan blant. Felly, bydd angen i chi ddangos llwyddiant blaenorol o ran ennyn diddordeb plant a chael effaith gadarnhaol drwy'r gwaith y byddwch chi'n ei wneud fel rhan o'n Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid amlasiantaethol. Wrth gyflawni'r nodau hyn, byddwch chi'n gweithio'n agos gyda theuluoedd a/neu ofalwyr er mwyn mynd i'r afael â’r ffactorau sy'n arwain at droseddu.

Bydd gofyn i chi gyfrannu at gofnodion electronig amserol a chywir yn unol â safonau cenedlaethol y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid. Felly, mae sgiliau TG yn hanfodol ar gyfer y swydd hon, yn ogystal â sgiliau cyfathrebu gwych, yn ysgrifenedig ac ar lafar.

A yw’r swydd hon yn addas i chi? Os felly, byddwn ni'n rhoi'r canlynol i chi:-

  • Rhaglen sefydlu gynhwysfawr
  • Hyfforddiant i hybu eich datblygiad proffesiynol parhaus
  • Model asesu risg wedi'i sefydlu
  • Penderfyniadau amserol sy'n cael eu gwneud ar sail tystiolaeth
  • Goruchwyliaeth reolaidd, gwerthusiad blynyddol a chyfleoedd ar gyfer ymarfer myfyriol
  • Uwch Ymarferwyr a Rheolwyr Tîm cefnogol a phrofiadol
  • Arweinyddiaeth amlwg a chryf gan Dîm Rheoli'r Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid.

Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn hyblyg ac arloesol gyda'r gallu i ddarparu gwasanaeth o ansawdd uchel. Os bydd angen rhagor o wybodaeth arnoch chi, cysylltwch â Trish Morgan, Rheolwr Tîm, ar 01495 235623.

Bydd cyfweliadau'n cael eu cynnal drwy Microsoft Teams ar 10.11.2023. Ni fydd yn bosib cynnig dyddiad arall ar gyfer cyfweliad.

Gweld y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person cliciwch yma

Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Patricia Morgan ar 01495 235623 neu ebost: Morgap2@caerphilly.gov.uk.

Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.

Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â webrecruitment@caerffili.gov.uk am ragor o wybodaeth.