MANYLION
- Lleoliad: Bridgend,
- Testun: Addysg Bellach
- Oriau: Full time
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Annual
- Salary Range: £20,000.00 - £25,000.00
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 01 Hydref, 2023 12:00 y.b
Swyddog Cyswllt Cyflogwyr Dysgu Seiliedig ar Waith
Disgrifiad o'r swydd Swyddog Cyswllt Cyflogwyr Dysgu Seiliedig ar Waith
Llawn Amser (37 awr yr wythnos)
Graddfa gyflog 4 (pwyntiau 21 - 24) : £22,938 - £25,454 y flwyddyn
Fe fyddwch yn ymgymryd ag ymweliadau i adolygu prentisiaid ar gyfer adran Dysgu Seiliedig ar Waith Coleg Penybont a darparwyr hyfforddiant cysylltiedig eraill. Bydd gennych gymwysterau Saesneg a Mathemateg TGAU gradd C neu uwch, NVQ Lefel 3, a gwybodaeth a dealltwriaeth o weithio mewn amgylchedd academaidd, diwydiannol a masnachol. Gyda sgiliau cyfathrebu gwych, byddwch yn monitro ac yn adrodd ar weithgareddau'r prentisiaid mewn amrywiaeth o ysgolion a darparwyr DSW.
I weld pecyn gwybodaeth y swydd, cliciwch yma.
Mae Coleg Penybont yn cydnabod ei gyfrifoldeb dros sicrhau diogelwch a lles pob myfyriwr. Rydym yn defnyddio proses drylwyr i wirio addasrwydd staff a gwirfoddolwyr i weithio â phlant ac oedolion bregus. Mae’r swydd uchod yn amodol ar ddatgeliad DBS Estynedig boddhaol ar gyfer gweithlu plant ac oedolion a chofrestriad fel Ymarferydd Seiliedig ar Waith gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.
Mae Coleg Penybont yn deall gwerth darparu gwasanaethau yn Gymraeg a'r angen i dyfu ei weithlu dwyieithog. Rydym felly’n annog ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n gallu dangos sgiliau Cymraeg da. Nodwch yn eich datganiad personol a fyddai’n well gennych i’ch asesiad/cyfweliad gael ei gynnal yn Gymraeg.
Rydym wrthi'n ceisio gwella cynrychiolaeth o bob rhan o'r gymuned a hyrwyddo cyfleoedd cyfartal. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb, gan gynnwys pobl o wahanol gefndiroedd a chymunedau, ac o wahanol oedrannau.
Rydym yn falch o fod yn Arweinydd Hyderus o ran Anabledd ac rydym yn gwarantu cyfweliad i unrhyw un sydd ag anabledd os yw eu cais yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd, a byddwn yn eu hystyried ar sail eu galluoedd. Gallwn hefyd gynnig addasiadau rhesymol drwy gydol y broses recriwtio.
Noder efallai y bydd gofyn am gyfweliad neu asesiad ail gam.