MANYLION
  • Lleoliad: Glyn Ebwy | Ebbw Vale, Monmouthshire, NP23 8XA
  • Testun: Tiwtor Oedolion
  • Oriau: Rhan amser
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Math o gyflog: Misol
  • Salary Range: £26,334.00 - £31,440.00
  • Iaith: Saesneg

This job application date has now expired.

Tiwtor SSIE (Casnewydd)

Tiwtor SSIE (Casnewydd)

Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales
Mae gennym gyfle gwych i diwtor SSIE cymwys ymuno â sefydliad ledled Cymru sydd wedi ymrwymo i wasanaethu poblogaeth oedolion Cymru gyda chyfleoedd ysbrydoledig sy'n newid bywyd. Mae Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales yn fudiad democrataidd, annibynnol a gwirfoddol, sydd wedi ymrwymo i ehangu cyfranogiad, hyrwyddo dinasyddiaeth weithredol a datblygu sgiliau a darparu dysgu o'r ansawdd gorau, gan weithio ar y cyd gyda'i bartneriaid.
Rydym yn chwilio am diwtoriaid SSIE cymwys, medrus iawn i gyflwyno darpaiaeth SSIE o ansawdd uchel i ddysgwyr yn Casnewydd.

Am y swydd
Byddwch yn cynllunio, datblygu, cyflwyno, gwerthuso ac asesu cyrsiau SSIE a rhaglenni dysgu yn unol ag anghenion dysgwyr a Phrosesau a Gweithdrefnau Ansawdd Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales. Byddwch yn cyflwyno darpariaeth SSIE o ansawdd uchel gan ddefnyddio ystod o ddulliau addysgu ac yn defnyddio ystod o ddulliau asesu priodol yn unol ag anghenion dysgwyr a gofynion y corff dyfarnu. Byddwch yn sicrhau bod dysgwyr yn cael adborth clir ac adeiladol o fewn amserlenni priodol.

Amdanoch chi
Mae cymhwyster addysgu o isafswm Lefel 3 ynghŷd â chymhwyster ymarferydd SSIE Lefel 3 neu uwch neu gyfwerth hy TESOL, CELTA, DELTA yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Bydd gennych brofiad o addysg gymunedol, addysg oedolion a darparu darpariaeth SSIE, ac o gymryd rhan mewn gweithdrefnau ansawdd mewnol.
Byddai gwybodaeth am dechnolegau dysgu digidol, tystysgrif Lefel 5 o gyflwyno darpariaeth SSIE a Chymwysterau mewn Arweniad Addysg Oedolion ac Ansawdd Mewnol yn ddymunol.

Ynglŷn â’n buddion
Mae buddion deniadol ar gael i'r ymgeisydd iawn gan gynnwys:-
• Lwfans gwyliau blynyddol hael o 30 diwrnod y flwyddyn (pro rata i rhan amser)
• Gwyliau banc a dyddiau ychwanegol eraill
• Cynllun Pensiwn Enillion Gyrfa Cyfartalog

Mae Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth ac i greu amgylchedd gwaith cynhwysol. Credwn fod cael gweithlu amrywiol ar bob lefel yn caniatáu i ni gynrychioli'r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu.
Mae safbwyntiau a phrofiadau amrywiol yn hanfodol i'n llwyddiant ac rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb o bob cefndir sydd gyda’r profiad a'r sgiliau anghenrheidiol i gyflawni'r rôl hon.

JOB REQUIREMENTS